Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod                    PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod        DYDD LLUN, 13 MEHEFIN, 2022 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                        CYFARFOD O BELL

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.3 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’w benodi gan y Pwyllgor a rhaid iddo fod yn Aelod Lleyg.)

[Gweld Cofnod]

 

2.         Penodi Is-Gadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.4 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei benodi ganddo ac ni chaiff fod yn aelod o’r Cabinet nac yn gynorthwyydd i’r Cabinet.)

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

4.         Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Mawrth, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymddygiad y Cyngor.

            (Sylwer:Gofynnir i aelodau sydd am gael cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Cyferiad –

6.         Cytundeb Rheoli Hamdden – Adroddiad Perfformiad Blwyddyn 9 – Pwyllgor Craffu Byw’n Iach a Gofal Cymdeithasol: 8 Mawrth, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Pennaeth Cyllid / Swyddog Adran 151 –

7.         Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

8.         Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol Blynyddol.

[Gweld Cofnod]

9.         Siarter Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol 2022/23.

[Gweld Cofnod]

10.       Strategaeth Archwilio Mewnol Flynyddol ddrafft a Chynllun Seiliedig ar Risg 2022/23.

[Gweld Cofnod]

11.       Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i Diweddaru.

[Gweld Cofnod]

 

12.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

7 Mehefin, 2022

 

 Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: I’w penodi yn y cyfarfod cyntaf;

Is-gadeirydd: I’w penodi yn y cyfarfod cyntaf;

Y Cynghorwyr: P. Drake, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J.M. Norman. J. Protheroe ac N.J. Wood a  G. Chapman, M. Evans ac N. Ireland (Aelodau Lleyg)

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf  Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx