Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL. 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod   PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                   DYDD LLUN, 25 GORFFENNAF, 2022 AM 4.00 P.M.

 

Lleoliad                      CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Rheolwr Gweithredol TGCh –

4.       Diweddariad TGCh Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd –

5.       Cyflawni Swyddogaethau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Hyfforddiant a Datblygiad.

[Gweld Cofnod]

6.       Penodi Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Etholedig.

[Gweld Cofnod]

7.       Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

[Gweld Cofnod]

8.       Adroddiadau Blynyddol yr Aeoldau.

[Gweld Cofnod]

9.       Rhaglen Waith y Pwyllgor 2022/23.

[Gweld Cofnod]

 

10.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

 

11.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

19 Gorffennaf, 2022

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985:

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees (ffôn: 01446 709413)

e-bost - democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Cadeirydd: Cynghorydd Dr. I.J. Johnson;

Is-gadeirydd: Cynghorydd S.J. Haines;

Y Cynghorwyr: G.D.D. Carroll, E. Goodjohn, H.C. Hamilton, S.M. Hanks, K.P. Mahoney, S.D. Perkes, J. Protheroe a N.C. Thomas.

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf.  Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.

 

Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democrat@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413.

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx