Cost of Living Support Icon

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod     Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser          DYDD LLUN, 15 GORFFENNAF, 2024 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.         Cymeradwyo cofnodion:

            (a)       y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2024; a

            (b)       y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 8 Mai, 2024.

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.         Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

            Derbyniwyd 4 cwestiwn.  [Sylwch fod Cwestiynau 2 a 4 wedi'u tynnu'n ôl]

 

6.        Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr M. Cowpe a Dr. I.J. Johnson] -

 

Dileu Cefnogaeth Ymwelwyr Iechyd Arbenigol ar gyfer Bwydo ar y Fron neu Fwydo Cyfunol

                       

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn nodi â phryder y cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddileu cymorth ymwelwyr iechyd arbenigol o’r unig wasanaeth galw heibio ym Mro Morgannwg ar gyfer rhieni sy’n bwydo ar y fron neu’n bwydo ar y cyd, sydd wedi’i leoli yn Ninas Powys. .

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn penderfynu ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gofyn iddynt ailystyried y cynnig hwn a chynnal y lefel bresennol o wasanaeth.

 

7.         Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr M.J. Hooper a Dr. I.J. Johnson] -

 

Ymgynghoriad ar y System Bleidleisio a ddefnyddir ar gyfer Etholiadau Prif Gyngor

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn nodi’r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n caniatáu i brif gynghorau newid eu system bleidleisio i fabwysiadu’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

 

Er mwyn i’r Cyngor wneud penderfyniad gwybodus ynghylch mabwysiadu’r system bleidleisio hon ai peidio, mae’r Cyngor yn cytuno i agor ymgynghoriad, o dan adran 8 o’r Ddeddf, ag etholwyr lleol, cynghorau cymuned yn yr ardal ac unrhyw bersonau eraill fel y bo’n briodol, fel y gall y Cyngor ddod i benderfyniad cyn 15 Tachwedd 2024 ynghylch a ddylid gweithredu unrhyw newid cyn etholiadau 2027.

 

Cyfeiriadau –

8.         Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau – Pwyllgor Safonau: 10 Mehefin, 2024. 

9.         Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Dirprwy wedi'i Enwebu ar gyfer y Cydbwyllgor Craffu – Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywio: 18 Mehefin, 2024.

 

Adroddiad yr Prif Weithredwr –

10.      Defnyddio Pwerau Argyfwng y Prif Weithredwr.

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

11.      Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

12.      Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n Gysylltiedig ag Alcohol (Gweld Cyfeiriad)

11 Gorffennaf, 2024

C

(b)       Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus – Rheolaethau Cŵn (Gweld Cyfeiriad)

11 Gorffennaf, 2024

C

 

O.N.    Mae’r adroddiadau sy’n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 12(a) a 12(b) uchod eisoes wedi’u dosbarthu i’r Aelodau gydag agenda’r Cabinet ar gyfer 11 Gorffennaf, 2024.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

13.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Diweddariad 2024 i Gynllun Cyflawni'r Grant Cymorth Tai 2022-2025 (3)

23 Mai, 2024

C13

(b)       Rhaglen Datblygu Tai – Tir ar Fferm Cosmeston Uchaf, Penarth (Rhan I) (4)

6 Mehefin, 2024

C30

(c)        Rhaglen Datblygu Tai – Tir ar Fferm Cosmeston Uchaf, Penarth (Rhan II) (4)

6 Mehefin, 2024

C35

(d)       Adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar gyfer Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n Gysylltiedig ag Alcohol (Gweld Cyfeiriad)

11 Gorffennaf, 2024

C

(e)       Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus – Rheolaethau Cŵn (Gweld Cyfeiriad)

11 Gorffennaf, 2024

C

 

14.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

15.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

16.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

9 Gorffennaf, 2024

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi K. Bowen, Ffôn: Y Barri (01446) 709856

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk  

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709856

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx