Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser        DYDD LLUN, 5 RHAGFYR, 2022 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                      

 

Lleoliad                       CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

(a)       26 Medi, 2022;

(b)       Cyfarfod Arbennig, 9 Tachwedd, 2022.

[Gweld Cofnod]

           

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Prif Weithredwr –

5.         Defnydd o Bwerau Brys y Prif Weithredwr.

[Gweld Cofnod]

 

6.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Caerdydd a Bro Morgannwg 2022.

[Gweld Cofnod]

6 Hydref, 2022

C93

(b)       Adroddiad Canol Tymor Rheoli’r Trysorlys.

[Gweld Cofnod]

17 Tachwedd, 2022

C132

(c)       Adolygiad Cymunedol Bro Morgannwg.

[Gweld Cofnod]

17 Tachwedd, 2022

C133

(d)       Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

[Gweld Cofnod]

1 Rhagfyr, 2022

C159

 

O.N.  Mae'r adroddiadau sy'n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 6(a) – (d) uchod eisoes wedi'u dosbarthu i Aelodau gydag agendâu'r Cabinet ar gyfer 6 Hydref, 17 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2022.   

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

7.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Hunanasesiad Blynyddol drafft Cyngor Bro Morgannwg 2021/22.

[Gweld Cofnod]

8 Medi, 2022

C63

(b)       Polisi Cludiant Ysgol a Choleg diwygiedig.

[Gweld Cofnod]

29 Medi, 2022

C76

(c)       Cynnig i ychwanegu St Richard Gwyn at y Rhaglen Gyfalaf.

[Gweld Cofnod]

29 Medi, 2022

C77

(d)       Monitro Cyfalaf am y Cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Awst 2022.

[Gweld Cofnod]

6 Hydref, 2022

C90

(e)       Ymgynghoriad Dwr Cymur Welsh Water ar y Cynllun Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP).

[Gweld Cofnod]

6 Hydref, 2022

C95

(f)        Adroddiad Hunanasesu Blynyddol Drafft Terfynol Cyngor Bro Morgannwg 2021/22.

[Gweld Cofnod]

20 Hydref, 2022

C104

(g)       Monitro Cyfalaf ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill i 30 Medi, 2022.

[Gweld Cofnod]

3 Tachwedd, 2022

C119

(h)       Ymgynghoriad ar Gynigion ar gyfer Deddfwriaeth Sylfaenol mewn Perthynas â Gofal Cymdeithasol Plant, Gofal Iechyd Parhaus, Adrodd Gorfodol a Rheoleiddio ac Arolygu.

[Gweld Cofnod]

3 Tachwedd, 2022

C123

(i)        Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

[Gweld Cofnod]

1 Rhagfyr, 2022

C159

 

8.         I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

9.         Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Derbyniwyd 1 cwestiwn.

[Gweld Cofnod]

 

10.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

11.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

28 Tachwedd, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb ddim hwyrach na 24 awr cyn amser cychwyn y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx