Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod   Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD LLUN, 6 RHAGFYR, 2021 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                      CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

 

RHAN 1

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       (a)      Clywed rhestr yr aelodau.

          (b)      Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.       I gymeradwyo'r cofnodion:

(i)      Cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi, 2021;

(ii)     Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2021;

(iii)    Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

4.       Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Arweinydd –

5.       Diweddariad ar Ailstrwythuro'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT) Arfaethedig.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau –

6.       Diogelwch a Chefnogaeth Cynghorwyr – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 22 Tachwedd, 2021.

[Gweld Cofnod]

7.       Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Cynllun Gweithredu – Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd: 22 Tachwedd, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –

8.       Defnydd o Bwerau Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.

[Gweld Cofnod]

9.       Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu Mai 2019 - Ebrill 2021.

[Gweld Cofnod]

 

10.     Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Adolygiad o’r Datganiad o’r Egwyddorion Gamblo Deddf 2005 2022-2025

[Gweld Cofnod]

8 Tachwedd, 2021

C718

(b)      Adroddiad Adolygiad Annibynnol Biomas Barri

[Gweld Cofnod]

22 Tachwedd, 2021

C728

(c)      Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021

[Gweld Cofnod]

22 Tachwedd, 2021

C729

(d)      Lleoedd Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio: Adolygiad Bach 

[Gweld Cofnod]

22 Tachwedd, 2021

C730

(e)      Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22.

[Gweld Cofnod]

22 Tachwedd, 2021

C735

(f)       Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor.

[Gweld Cofnod]

22 Tachwedd, 2021

C739

 

O.N.  Mae'r adroddiadau sy'n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 10 (a) i (f) uchod eisoes wedi'u dosbarthu i Aelodau gydag agendâu'r Cabinet ar gyfer 8 Tachwedd a 22 Tachwedd, 2021.  Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo Aelodau i ystyried eitem 10 (b) uchod, mae copi o'r adroddiad wedi'i gynnwys yn yr agenda.

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

11.     I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol: Canllawiau Statudol Drafft.

[Gweld Cofnod]

27 Medi, 2021

C672

(b)      Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Dangosyddion A Cherrig Milltir Cenedlaethol i Fesur Cynnydd Ein Cenedl.

[Gweld Cofnod]

25 Hydref, 2021

C709

(c)      Trawsnewid Trefi: Cefnogaeth i Wella Canol Trefi.

[Gweld Cofnod]

25 Hydref, 2021

C710

 

12.     I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

13.     Cwestiynau gan y cyhoedd –    

          Derbyniwyd 18 cwestiwn.

[Gweld Cofnod]

 

14.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

15.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

30 Tachwedd, 2021

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.   Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy

e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk

 

SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Cyfarfod rhithwir fydd hwn a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor a Swyddogion i gefnogi eitemau’r agenda. Bydd y cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w drosglwyddo wedi hynny trwy wefan y Cyngor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx