Cost of Living Support Icon

 

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser        DYDD LLUN, 7 RHAGFYR 2020 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                      

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.        Cymeradwyo cofnodion:
            (a) y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi, 2020;

            (b) y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2020.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

5.        Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr R.A. Penrose a K.P. Mahoney

[Gweld Cofnod]

 

“Gofynnaf i Gyngor Bro Morgannwg wrthbwyso’r penderfyniad a wnaed gan yr Adran Addysg i briodol £ 2,000,000 o arian Adran 106 a dderbyniwyd gan Taylor Wimpey (mewn perthynas â Datblygiad Cog - a ddyrannwyd ar gyfer addysg yn ward Sully) y maent bellach yn bwriadu ei ddyrannu. i adeilad lloeren ysgol newydd Ysgol y Deri o dan amserlen “Band B” Llywodraeth Cymru.

 

Rwy'n ei gwneud yn ofynnol i'r penderfyniad hwn gael ei wrthdroi gan fod yr arian Adran 106 ar gyfer addysg yn Sili a dylid ei ddyrannu i ailosod neu ailfodelu Ysgol Gynradd Sully."

 

Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr –

6.         Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai –

7.        Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy'n Gysylltiedig ag Alcohol.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

8.        Adolygiad o Gyfansoddiad y Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd.

[Gweld Cofnod]

 

9.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor.

[Gweld Cofnod]

7 Rhagfyr, 2020

C

 

 

O.N. Mae'r adroddiad, sy'n destun y cyfeiriad mewn perthynas ag Eitem 9(a) uchod, wedi'i ddosbarthu eisoes i'r Aelodau gydag agenda'r Cabinet ar gyfer 7 Rhagfyr, 2020.

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

10.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Contract Rheoli Hamdden - Goblygiadau Covid-19. 

[Gweld Cofnod]

2 Tachwedd, 2020

C365

(b)       Ymateb Gwasanaethau Dydd i'r Pandemig Coronafirws.

[Gweld Cofnod]

16 Tachwedd, 2020

C381

(c)        Prosiect Cam 2 Gwasanaethau Cefnogaeth Digartrefedd a Thai COVID-19 - Cyn Safle Mwynderau Dinesig, Heol y Llys, Y Barri.

[Gweld Cofnod]

16 Tachwedd, 2020

C384

 

11.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

12.      Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.       

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

14.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

1 Rhagfyr, 2020

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.   Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy

e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Cyfarfod rhithwir fydd hwn a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor a Swyddogion i gefnogi eitemau’r agenda. Bydd y cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w drosglwyddo wedi hynny trwy wefan y Cyngor. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413.