Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod  Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD MERCHER, 1 MAI 2019 AM 6.35 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                      SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG

 

CYN Y CYFARFOD BYDD YR AELODAU'N CAEL CYFLWYNIAD GAN GOMISIWN FFINIAU DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU AR ADOLYGIAD TREFNIADAU ETHOLIADOL AM 5.30 P.M

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER CYCHWYN Y CYFARFOD HWN.

GWEDDÏWN AM 6.30 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion:

            (i)         Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chewfror 2019;

            (ii)        Y ddau gyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2019.  [4.30p.m. a 5.00p.m.]

[Gweld Cofnod]

           

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr –

5.         Defnydd o Rymoedd Brys y Rheolwr Gyfarwyddwr.

[Gweld Cofnod]

 

6.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Diweddariad ar Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

[Gweld Cofnod]

18 Mawrth, 2019

C614

(b)       Trethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr a Manwerthu

[Gweld Cofnod]

15 Ebrill, 2019

C650

 

O.N.  Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 6(a) i (b) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 18 Mawrth, 2019 a 15 Ebrill, 2019. 

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**.  

 

7.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Aildrefnu Arfaethedig y Ddarpariaeth Gynradd yng Ngorllewin y Fro

[Gweld Cofnod]

18 Mawrth, 2019

C627

(b)       Gwasanaethau Ail-lunio - Gwasanaethau Gorfodi

[Gweld Cofnod]

18 Mawrth, 2019

C628

(c)        Trethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Stryd Fawr a Manwerthu

[Gweld Cofnod]

15 Ebrill, 2019

C650

(d)       Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2020/21

[Gweld Cofnod]

15 Ebrill, 2019

C654

 

8.         I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

9.         Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

10.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

11.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

25 Ebrill, 2019

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

 

Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.   Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy

e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk