Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o’r Cyfarfod     CABINET

 

Dyddiad ac Amser

y Cyfarfod                       DYDD IAU, 19 RHAGFYR, 2024 AM 2.00 P.M.

 

Lleoliad                           CYFARFOD HYBRID

 

AGENDA

 

RHAN I

 

1.        Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.        Cofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr, 2024.

 

3.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Cyfeiriadau –

4.         Diweddariad Blynyddol y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol – Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol: 20 Tachwedd, 2024.

5.         Cynllun Rheoli Carbon– Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol: 20 Tachwedd, 2024.

6.         Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru – Ymateb i Gynllun Rheoli Carbon Cyngor Bro Morgannwg 2024-2030 – Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol: 20 Tachwedd, 2024.

 

Adroddiad y Cyfarfod –

7.         Grŵp Cynghori Arfordir Treftadaeth Morgannwg – 11 Hydref, 2024.

 

Adroddiadau’r Arweinydd Gweithredol a’r Aelod Cabinet Perfformiad ac Adnoddau –

8.         Sylfaen Treth y Cyngor 2025/26.

9.         Premiymau Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi.

10.       Dyddiadau Talu Praesept 2025/26.

11.       Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor.

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –  

12.       Adroddiad Canol Tymor Diogelu Corfforaethol.

13.       Neilltuo Dau Eiddo o'r Stoc Tai i'r Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Adrodiad yr Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol –

14.      Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) - Adran 65 Pŵer i Benderfynu Tocynnau Teithio ar gyfer Cerbydau Hacni - Ceisiadau i Amrywio Tariff Prisiau Cerbyd Hacni.

 

Adroddiadau’r Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles –

15.       Canolfan Hamdden Holm View, Y Barri.

16.       Gwelliannau Arfaethedig i Safleoedd Hamdden Colcot a Buttrills, Y Barri.

 

17.      Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).

           Adroddiadau'r Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –

           (i)      Adroddiad Diweddaru Monitro Refeniw Chwarter 2 2024/25.

           (ii)     Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro.

 

RHAN II

 

EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd –  

18.       Neilltuo Dau Eiddo o'r Stoc Tai i'r Gyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

19.       Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).

            Adroddiad yr Arweinydd Gweithredol a'r Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau -

           (i)      Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro.

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

13 Rhagfyr, 2024

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -

Archwilio papurau cefndirol:

Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i

M. Swindell Ffôn: 01446 709479.

E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Cabinet – 

Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet Berfformiad ac Adnoddau)

Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)

Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)

Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)

Y Cynghorydd S.D. Perkes (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)

Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)

Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)

Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx