GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.
Hysbysiad am Gyfarfod CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR BRO MORGANNWG
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod DYDD LLUN, 23 MAI 2022 AM 6.05 P.M.
Lleoliad CYFARFOD O BELL
GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.
OFFRYMIR Y GWEDDÏAU AM 6.00 P.M.
Agenda
** Bydd y Maer sy’n ymddeol yn cadeirio nes bod y Maer newydd yn cael ei ethol yn ffurfiol.
Cyflwynir Trefn gyflawn y Digwyddiadau yn ystod y cyfarfod. Amgaeir Trefn y Trafodion llawn.
RHAN 1
1. Ymddiheuriadau am absenoldebau.
[Gweld Cofnod]
2. (a) Clywed cofrestr yr aelodau.
(b) Derbyn datganiadau o ddiddordeb.
(Noder: Gofynnir i Aelodau sydd angen cyngor ar y mater hwn gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
[Gweld Cofnod]
3. Ethol Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaethau Adrannau 22 a 23 Deddf Llywodraeth Leol 1972. **
[Gweld Cofnod]
4. Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaeth Adran 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972.
[Gweld Cofnod]
5. Derbyn gyhoeddiadau gan y Maer neu’r Prif Weithredwr.
[Gweld Cofnod]
Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –
6. Trefniadau Gweithredol:
(i) I Ethol yr Arweinydd.
[Gweld Cofnod]
(ii) Aelodaeth y Cabinet a Phortffolios –
I nodi statws yr Arweinydd a chael gwybod gan yr Arweinydd beth yw enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelodau’r Cabinet, ynghyd â’u portffolios a, pan fo’n berthnasol, enwebiadau ar gyfer “Llefarwyr”. (N.B. Ceir manylion taliadau arfaethedig Uwch Gyflogau yn yr adroddiad hefyd.) [Gweld Gwybodaeth Atodol]
[Gweld Cofnod]
7. Trefniadau Anweithredol – [Gweld Gwybodaeth Atodol]
Penodi Pwyllgorau Craffu ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:
(a) Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol
(b) Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywio
(c) Pwyllgor Craffu Byw’n Iach a Gofal Cymdeithasol
(ch) Pwyllgor Craffu Tai a Chymunedau Diogel
(d) Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant.
[Gweld Cofnod]
Pwyllgorau Lled-Farnwrol A Chyrff Eraill –
8. Penodi’r cyrff isod ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth am y flwyddyn ddinesig sydd i ddod: [Gweld Gwybodaeth Atodol] [Gweld Gwybodaeth Atodol Ychwanegol]
[Gweld Cofnod]
Pwyllgorau Lled-farnwrol flwyddyn dinesig
(a) Pwyllgor Apeliadau
(b) Pwyllgor Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol
(c) Pwyllgor Ymchwilio
(ch) Pwyllgor Cynllunio
(d) Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus
(dd) Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd
(e) Pwyllgor Statudol Trwyddedu
(f) Pwyllgor Safonau
(ff) Pwyllgor Penodi Pwyllgor Safonau.
Pwyllgorau / Is-bwyllgorau / Panelau
(g) Penodi Llywodraethwyr ALl – Panel Ymgynghorol.
(ng) Pwyllgor Cyswllt Cymunedol
(h) Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(i) Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(l) Pwyllgor Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi
(ll) Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
(m) Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd
(n) Pwyllgor Penodi Uwch Reolwyr
(o) Panel Penodi Pwyllgor Safonau
(p) Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth
(ph) Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol
(r) Pwyllgor Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru
Cyrff Eraill (Yn cynnwys Cyrff ar y Cyd)
(rh) Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldebau
(s) Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
(t) Cydbwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De –
Mae Model Rheolaeth y Consortiwm yn cynnwys Cydbwyllgor symlach, sy’n cynnwys nifer lai o Arweinwyr neu gynrychiolwyr a enwebwyd. Mae pob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn penodi un Aelod, ac (yn unol â’r Model Cenedlaethol), dylai hwn fod yr Arweinydd neu ddirprwy a enwebwyd. Cynrychiolydd presennol y Cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant.
(th) Cyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: Aelodaeth a Phenodi Dirprwyon –
Mae’r Cytundeb Cydweithio yn galluogi bob un o’r tri Awdurdod perthnasol i benodi eilyddion ar gyfer y ddau Aelod a enwyd ganddynt. Cynrychiolwyr presennol y cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddio a Chynllunio a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd. Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Diogelu’r Cyhoedd oedd yr eilyddion ar gyfer yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddio a Chynllunio a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd yn y drefn honno.
(u) Y Cwmni Arlwyo Big Fresh (Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol) – [Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio] – Pwyllgor sy'n cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Adnoddau ac Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio a fydd yn cynrychioli'r Cyngor fel y cyfranddaliwr y cwmni a phwy fydd yn cael ei gynghori gan Banel Cynghori Cyfranddalwyr, sy'n cynnwys Swyddogion y Cyngor.
9. Nodi dyddiadau cyfarfodydd cyffredin y Cyngor i’w cynnal yn y flwyddyn ddinesig sydd i ddod –
18 Gorffennaf 2022
26 Medi 2022
5 Rhagfyr 2022
6 Mawrth 2023
24 Ebrill 2023.
[Gweld Cofnod]
10. Ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau isod ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:
(a) Apeliadau
(b) Cyswllt Cymunedol
(c) Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
(ch) Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol
(d) Ymddeol yn Gynnar / Dileu Swyddi
(dd) Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg
(e) Ymchwilio
(f) Cynllunio
(ff) Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd
(g) Penodi Uwch Reolwyr
(ng) Trwyddedu Statudol
(h) Ymddiriedolaeth
(i) Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol
(l) Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru.
Gweler yr atodiad sydd ynghlwm sy’n nodi pam nad yw pwyllgorau penodol wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod.
[Gweld Cofnod]
11. Unrhyw fater arall brys ym marn y Maer (Rhan I).
RHAN II
GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
12. Unrhyw fater brys ym marn y Maer (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
17 Mai 2022
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985
Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at Mr. J. Rees Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709413
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
Noder:Sylwch y bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio pan fydd materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Os ydych yn cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich recordio yn weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol. Lle cynhelir cyfarfodydd y Cyngor ar sail hybrid, bydd presenoldeb yn cael ei gyfyngu yn amodol ar weithdrefnau asesu risg y Cyngor.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709413.
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx