Cost of Living Support Icon

Gwneud Penderfyniadau

Yng Nghyngor Bro Morgannwg, rydyn ni’n dilyn model Arweinydd a Chabinet o lywodraeth leol, sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion y mae gofyniad cyfreithiol i’r cyngor ymwneud â nhw.

 

Mae’r cyngor hefyd yn cynnig dulliau trafod agored, cyhoeddus ar faterion o bwys i’r gymuned leol.

 

Gellir egluro’r broses o wneud penderfyniadau mewn pedwar cam:

 

Cam un: 

Mae’r Cabinet, sy’n cynnwys Arweinydd y Cyngor a hyd at chwe chynghorydd arall, yn defnyddio’i Bwerau Gweithredu i wneud y rhan fwyaf o benderfyniadau’r Cyngor ar wasanaethau, gweithredu a rheolaeth Gorfforaethol, yn cynnwys cynlluniau a strategaethau. Mae penderfyniadau ar faterion sylfaenol eraill, megis gosod y Gyllideb, yn aros yn nwylo’r Cyngor.

 

Mae cyfarfodydd y Cabinet yn cael eu cynnal bob pythefnos, ac yn cael eu cadeirio gan yr Arweinydd. Yn ystod y cyfarfodydd yma, caiff materion eu codi a’u trafod, ac yna caiff y penderfyniadau eu gwneud.

 

Cam dau:

Anfonir Agenda ar gyfer cyfarfod y Cabinet at bob Aelod o’r Cyngor ac Aelodau’r Cabinet yr un pryd. Drannoeth cyfarfod y Cabinet, anfonir gwybodaeth am benderfyniadau a wnaethpwyd at holl Aelodau’r Cyngor, ynghyd â chopïau o’r adroddiadau y seiliodd y Cabinet eu penderfyniadau arnynt. 

 

Mae gan bob cynghorydd hawl wedyn gyflwyno eitem "alwadwy" i graffu arni ymhellach. Mae pum pwyllgor craffu yn gweithredu i ymateb i’r ceisiadau yma.

 

Cam tri: 

Mae’r Prif Weithredwr yn trosglwyddo’r eitemau yma i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol, sy’n penderfynu a yw eitem yn "alwadwy". Os yw’r Cadeirydd yn cytuno, caiff yr eitem ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu.

 

Cam pedwar: 

Yna, gall y Pwyllgor Craffu wneud un o dri pheth. Gall gyfeirio’r mater yn ôl at y Cabinet i’w ystyried ymhellach a gwneud argymhellion; gall dderbyn yr adroddiad fel y cafodd ei ddrafftio, a bydd wedyn yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod Cabinet nesaf i’w gadarnhau; neu, mewn rhai achosion, gall atgyfeirio’r mater i’r cyngor llawn.

 

Fodd bynnag, os mai mater ar gyfer penderfyniad Gweithredol yw e, gall y Cyngor argymell hwn wrth y Cabinet. Os mai mater i’r Cyngor yw e, caiff penderfyniad ei wneud yng nghyfarfod y Cyngor.

 

Mae’r Cyngor wedi penodi amryw o bwyllgorau eraill i ymwneud â materion cynllunio, trwyddedu ac apeliadau.

 

Mae’n cydweithio’n glòs â’r sector wirfoddol a chynghorau tref a chymuned drwy gyfrwng Cydbwyllgor Cydlynu’r Sector Wirfoddol a’r Pwyllgor Cydlynu Cymunedol fel ei gilydd.