Dod yn Gynghorydd
Ydych chi wedi ystyried sefyll i’ch ethol ar Gyngor Bro Morgannwg?
Ydych chi eisiau helpu i gyflawni pethau yn eich cymdogaeth? Ydych chi eisoes yn weithredol yn eich cymuned? Fel cynghorydd, gallwch wneud gwahaniaeth.
Os ydych chi’n ystyried sefyll, cymerwch olwg ar y wybodaeth yn y tudalennau canlynol, neu cysylltwch â’ch swyddog cyswllt lleol (isod) am ragor o wybodaeth.
Cofiwch y bydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2022.
Gwybodaeth i'm helpu i benderfynu:
- Sut ydw i'n sefyll fel ymgeisydd?
- Beth yw'r meini prawf as gyfer dod yn Gynghorydd?
- Beth yw rôl Cynghorydd?
- Y mathau o rolau y gallai Cynghorydd ddisgwyl eu cyflawno
- Pa gyfleusterau a chymorth sydd ar gael?
Gwybodaeth Gysylltiedig
Manylion Cyswllt
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd,
Cyfarwyddiaeth Adnoddau,
Cyngor Bro Morgannwg,
Swyddfeydd Dinesig,
Heol Holltwn,
Y Barri.
CF63 4RU
Ffoniwch: 01446 709413
Ydych chi eisiau helpu i wneud pethau yn eich cymdogaeth? Ydych chi eisoes yn weithredol yn eich cymuned? Fel cynghorydd, gallwch wneud gwahaniaeth.
Beth mae Cynghorydd yn ei wneud?
Gall rôl cynghorydd gynnwys:
- cynrychioli eich ward lleol
- gwneud penderfyniadau
- adolygu a datblygu polisïau a strategaeth
- trosolwg a chraffu
- dyletswyddau rheoleiddiol
- arwain ac ymgysylltu cymunedol.
Mae bod yn gynghorydd yn ffurf werth chweil ar wasanaeth cyhoeddus sy’n eich rhoi mewn sefyllfa unigryw lle y gallwch wneud penderfyniadau am faterion lleol a gwella ansawdd bywydau pobl ym Mro Morgannwg. Mae’n rhoi cyfle i chi helpu eich cymuned leol a bod yn rhan o dîm ymroddgar sy’n darparu gwasanaethau allweddol i’ch ardal chi.
Yn ddiweddar cynhyrchodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ffilm fer sy’n rhoi gwybodaeth i unigolion sy’n ystyried ymgeisio yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol nesaf ym mis Mai 2022 [View IRPW video]
 Diddordeb?
Os ydych chi’n meddwl am sefyll, cysylltwch â’ch swyddog cyswllt lleol (isod) am ragor o wybodaeth. Cofiwch y bydd yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal ym mis Mai 2022.
Pam dylech ddod yn Gynghorydd?
Mae bod yn gynghorydd effeithiol yn gofyn am waith caled Prif rôl cynghorydd yw cynrychioli ei ward a'r bobl sy’n byw ynddi. [Disgrifiad Rôl Cynghorwyr] Mae arweinyddiaeth gymunedol wrth galon llywodraeth leol fodern ac mae cynghorau yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan gynnwys y sector gwirfoddol a chymunedol, i wella gwasanaethau ac ansawdd bywyd ar gyfer dinasyddion. Mae bod yn gynghorydd hefyd yn ffordd wych er mwyn cael profiad gwleidyddol a sgiliau defnyddio mewn siarad yn gyhoeddus, dadlau a datrys problemau.
Disgwylir i Gynghorwyr gymryd camau i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau.
Cymerir y byddant, o leiaf bob blwyddyn, yn mynychu cyfarfodydd cyngor cymuned/tref a chyfarfodydd grwpiau cymunedol lleol. Hefyd gellid dewis cynghorwyr i gynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol (yn lleol ac yn genedlaethol), all gynnwys ystod eang o ymddiriedolaethau, cymdeithasau a phwyllgorau.
Pwy all ddod yn gynghorydd?
Gallwch fod yn gynghorydd os:
- ydych chi dros 18 oed ar y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod enwebu;
- rydych yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, y Gymanwlad neu aelod wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;
- rydych chi ar y Gofrestr Etholwyr ac mae eich cartref ym Mro Morgannwg (ac wedi bod ers o leiaf y 12 mid diwethaf), neu rydych yn gweithio ym Mro Morgannwg (ac wedi gwneud ers o leiaf y 12 mis diwethaf), neu
- rydych yn berchen ar eiddo ym Mro Morgannwg (ac wedi gwneud ers o leiaf y 12 mis diwethaf).
Nod Project Amrywiaeth mewn Democratiaeth Llywodraeth Cymru yw cynyddu amrywiaeth yr ymgeiswyr sy’n sefyll am etholiadau’r llywodraeth leol.
Gallwch gael eich anghymwyso fel ymgeisydd os:
- ydych yn fethdalwr heb eich ryddhau;
- mae gennych euogfarn droseddol gyda dedfryd o garchar o 3 mis neu fwy yn y 5 mlynedd flaenorol;
- rydych yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg, neu mae gennych swydd gyfyngedig gydag awdurdod arall.
Faint mae angen i mi ei wybod?
Y prif gymwysterau yw diddordeb yn eich cymuned a bodlonrwydd i ddysgu. Bydd gwybodaeth, profiad a hyder yn dilyn yn fuan wedyn. Cynigir arsefydlu cynhwysfawr i chi i’ch rôl fel cynghorydd a chymorth ac arweiniad parhaus ar eich datblygiad personol.
Pa dreuliau gallaf eu hawlio?
Mae Cynghorau yn derbyn cyflog sylfaenol blynyddol ac mae rhai dyletswyddau cymeradwy yn gymwys i gael lwfansau teithio a/neu fyw. Hefyd bydd rhai aelodau yn derbyn cyflog uwch ar gyfer dyletswyddau penodol maent yn ymgymryd â nhw (er enghraifft, cadeirio pwyllgor). O dan rhai amgylchiadau penodol mae lwfans gofal ar gael parthed y fath dreuliau yr eir iddynt wrth drefnu gofal plant neu ddibynyddion sy’n gysylltiedig ag ymgymryd â busnes swyddogol fel aelod
Gweler y wybodaeth sydd ynghlwm gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)
Pa gymorth arall a gaf i?
I’ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau, byddwch yn gallu cael mynediad at gyngor gan staff yn y Gwasanaethau Democrataidd yn ogystal â chyngor gan swyddogion proffesiynol eraill y Cyngor.
Ble caf ragor o wybodaeth?
I gael gwybod rhagor am rôl a chyfrifoldebau’r cynghorydd, cyfeiriwch at y wybodaeth berthynol isod neu cysylltwch â’r Cyngor fel y disgrifir isod.
Gwybodaeth gysylltiedig
Cyngor ar fod yn gynghorydd (Saesneg)
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)
Diogelwch Personol i Gynghorwyr (LGA)
Cynghorwyr a'r Cyfryngau Cymdeithasol (LGA)
Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud (LGA)
Cyswllt
Ffôn: 01446 709413
e-bost: Gwasanaethau Democrataidd
neu ysgrifennwch at:
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd,
Cyfarwyddiaeth Adnoddau,
Cyngor Bro Morgannwg,
Swyddfeydd Dinesig,
Heol Holltwn
Y Barri.
CF63 4RU