Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn darparu templed adroddiad fel dogfen Word i bob Aelod Etholedig ddiwedd Ebrill bob blwyddyn. Bydd y templed adroddiad hefyd ar gael i Aelodau drwy'r flwyddyn drwy fewnrwyd mewnol y Cyngor (MemberNet). Bydd hyn wedyn yn galluogi Aelodau Etholedig i gwblhau drafft cychwynnol o'u hadroddiad am y cyfnod o 1 Mai y flwyddyn flaenorol tan 30 Ebrill y flwyddyn bresennol.
Gofynnir i Ddrafftiau Cychwynnol gael eu dychwelyd i'r Gwasanaethau Democrataidd erbyn 31 Mai. Un o’r agweddau pwysicaf ar y templed yw bod Cynghorwyr yn cael eu hannog i ddarparu cymaint neu gyn lleied o wybodaeth o fewn y terfyn 500 gair. Bydd aros o fewn terfyn cyfrif y geiriau yn rhoi rhywfaint o gysondeb ac yn cynnal y ffocws ar faterion allweddol adroddiad yr Aelod. Bydd hefyd yn galluogi rheoli’r costau cyfieithu angenrheidiol wrth gyhoeddi'r adroddiadau hyn.
Bydd negeseuon atgoffa yn cael eu hanfon gan y Gwasanaethau Democrataidd i ddychwelyd adroddiadau drafft cychwynnol wedi'u cwblhau. Tybir na fydd unrhyw Aelod Etholedig nad yw’n dychwelyd adroddiad erbyn 31 Mai yn cwblhau adroddiad blynyddol am y cyfnod.
Bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn adolygu'r adroddiad ac yn cwblhau unrhyw fformatio cyn ei ddychwelyd i'r Aelod Etholedig i'w gymeradwyo. Gellir adolygu copi o'r Adroddiadau Blynyddol terfynol gan yr Arweinwyr Grwpiau (os oes angen).
Bydd yr adroddiadau cymeradwy yn cael eu cyfieithu a bydd dolenni at y ddwy ddogfen o’r dudalen 'Chwilio Cynghorwyr' ar wefan Cyngor Bro Morgannwg erbyn 01 Medi bob blwyddyn.