Cost of Living Support Icon

Y Maer

Swyddogaethau a chyfrifoldebau Maer Bro Morgannwg, ei elusennau dethol a gwybodaeth am ddeiliad y swydd

 

Rhaid i’r Maer fod yn aelod etholedig o’r Cyngor.

 

Caiff ei ethol i’w rôl yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai a bydd yn cyflawni’r rôl tan fis Mai’r flwyddyn ganlynol.

 

Mae’r Maer a’r Faeres yn gwisgo eu cadwyni swydd wrth fynd i ddigwyddiadau ar ran y Cyngor.

 

Penn

2024/25

Y Cynghorydd Elliot Penn

Cefais fy magu ar Stryd y Brenin ym Mhenarth a mynychais Ysgol Gynradd Heol Albert ac Ysgol Gyfun Stanwell ac rwyf wedi byw ym Mhenarth bron drwy gydol fy oes.

 

Treuliais lawer o fy amser yn chwarae ym Mharc Belle Vue pan o'n i'n ifanc, y Bowlers fel roedden ni'n ei alw, ac wrth fy modd efo'r ffaith bod fy nau fab ifanc bellach yn dringo'r un coed ag oeddwn i'n arfer eu gwneud.

 

Rwyf wrth fy modd yn byw ym Mhenarth ac yn falch o'r gymuned gyfeillgar a chroesawgar sydd yma.

 

Wrth dyfu i fyny mewn cartref un rhiant yn dibynnu ar fudd-daliadau plant, rwy’n gwybod yn union sut brofiad yw peidio â chael digon o arian, bwyd neu drydan ar ôl ar ddiwedd pob wythnos. Cefais brydau ysgol am ddim drwy gydol fy amser yn yr ysgol a chefais y manteision gwirioneddol a gafodd hyn.

 

Rwy’n grefftwr hunangyflogedig sy’n gweithio ym Mhenarth a’r ardal leol

 

Rwy'n mwynhau gweithio'n gadarnhaol yn y gymuned ac yn gyd-sylfaenydd a chyd-drefnydd y Penarth Downhill Derby. Fe ddechreuon ni’r digwyddiad yn 2010 gyda’r gymuned leol a theuluoedd mewn golwg, ac mae’r digwyddiad bellach wedi dod yn un o uchafbwyntiau penwythnos Gŵyl Haf Penarth. Mae'n denu ceisiadau gan lawer o fusnesau lleol, ysgolion a theuluoedd, a chyfranogwyr o mor bell i ffwrdd â de Ffrainc a Fietnam. Rwyf mor falch o’i lwyddiant a bod Penarth wedi mynd ag ef at eu calonnau.

 

Mae hanes fy nheulu yn cydblethu â’r dref ac yn edrych ymlaen at weld cenedlaethau o fy nheulu yn y dyfodol yn rhan o’i chymuned gymysg a bywiog. Gyda theulu a chymaint o ffrindiau yn byw yma rwy'n teimlo mai dyma fy nghartref ac mae cynrychioli lle cefais fy magu a byw yn fraint.

 

Y materion sydd o bwys mawr i mi yw:

  • Sefyll dros y rhai yn ein cymdeithas sydd angen ein cymorth, gan hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb.
  • Gwelliannau parhaus ar gyfer addysg, cyfleusterau addysgol, buddsoddiad yn ein mannau chwarae a mannau gwyrdd.
  • Adeiladu cymunedau cryfach a mannau cymunedol a rennir.
  • Hyrwyddo Bro Morgannwg fel cyrchfan i dwristiaid a mwy o fuddsoddiad yn y dref a digwyddiadau lleol.

 

 

 

 

  • A oes gwahaniaeth rhwng Maer ac Arglwydd Faer?
    Mae gan ddinasoedd Arglwydd Faer; mae gan gynghorau fel Bro Morgannwg Faer.
  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Maeres a Chymdaith?

    Mae’r Maer a’r Dirprwy Faer yn penodi eu cymdeithion eu hunain. Maent yn dewis naill ai eu gŵr neu eu gwraig, partner, mab, merch neu ffrind. Os yw’r cymdeithion yn wragedd, cyfeirir atynt fel y Faeres neu’r Dirprwy Faeres.

     

    Os dewisir gŵr, brawd neu chwaer, gelwir nhw yn Gydweddog neu’n Ddirprwy Gydweddog.

  • Oes hawl gan y Maer gadw ei gar?  

    Nac oes. Un car a ddefnyddir gan y Maer a’r Dirprwy Faer. Nid yw'r Maer yn gyrru'r car ei hun, ond gyrrwr. Mae gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr hawl i ddefnyddio’r car dinesig yn ogystal. 

  • Pa mor brysur yw’r Maer?

    Mae llwyth gwaith y Maer amrywio o un flwyddyn i’r llall, yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ym Mro Morgannwg yn ystod tymor y Maer. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Meiri wedi ymgymryd â dros 550 o ymrwymiadau yn gyson bob blwyddyn. Mae ‘ymrwymiadau’ yn cynnwys mynychu cyfarfodydd, cadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn, cyfarfodydd pwyllgor elusennol, digwyddiadau elusennol, agor arddangosfeydd ac ati. 

  • Sut caiff Maer ei ddewis? 

    Mae’r Maer wastad yn aelod o’r cyngor, a fer arfer, bydd wedi cyflawni cyfnod hir o wasanaeth. Gwahoddir ef neu hi i sefyll gan gyd-weithwyr o’u plaid wleidyddol eu hun. Fel arfer, bydd wedi bod yn Ddirprwy Faer y flwyddyn flaenorol.

     

    Cynhelir pleidlais i ethol Maer newydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Cyngor, a gynhelir yn draddodiadol ym mis Mai. 

     

    Pan geir mwyafrif clir yn y Cyngor, gall yr ymgeisydd ddisgwyl cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Fodd bynnag, os yw’r Cyngor yn un grog, gall fod mwy nag un ymgeisydd yr un ar gyfer swydd y Maer a’r Dirprwy Faer, a gall canlyniad yr etholiad fod yn agos iawn.

  • A all Maer fod yn ddeiliad y swydd fwy nag unwaith?
    Gall, ond fel arfer, ni all arddel y teitl ‘Maer’ am fwy nag un flwyddyn yn y swydd.  

  • Ai'r Maer sy'n rhedeg y Cyngor?

    Swyddogaeth anwleidyddol ac anweithredol sydd gan Faer Cyngor Bro Morgannwg. Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet sy’n ben ar Gyngor Bro Morgannwg, ac mae pwyllgorau craffu’n monitro penderfyniadau’r Cabinet yn drylwyr.

     

    Mae’r Maer yn cadeirio cyfarfodydd y Cyngor ac yn sicrhau pob pob eitem ar yr agenda’n cael ei drafod mewn modd cydradd.

     

    Nid yw’r Maer yn siarad am faterion penodol yn ystod cyfarfodydd llawn y cyngor fel rheol, gan fod angen iddo fod yn ddiduedd. Ganddo ef neu hi mae’r bleidlais fwrw, fodd bynnag, petai angen ei defnyddio. 

  • Ydy'r Maer yn ennill llawer o arian?

    Mae pob cynghorydd yn derbyn lwfans sylfaenol, ond mae’r Maer yn derbyn lwfans ychwanegol arbennig a bennir gan y Cyngor i alluogi i’r Maer/Dirprwy Faer gyflawni ei ddyletswyddau ychwanegol. 

  • Pa bryd mae'r Maer yn gwisgo cadwyn y swydd?

    Mae’r Maer bob amser yn gwisgo cadwyn y swydd pan fydd ar fusnes swyddogol, oni bai y gofynnir yn benodol iddo beidio â gwneud.

     

    Mae’r Dirprwy Faer yn gwisgo ei chadwyn pan fydd hi’n cynrychioli’r Maer.