Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydych nawr yn gallu gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun sy'n pleidleisio ar eich rhan) ar gyfer etholiad Seneddol San Steffan ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Gallwch wneud hyn drwy fynd i Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post
Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post - GOV.UK (www.gov.uk)
I bleidleisio drwy'r post ar gyfer Etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol, bydd angen i chi gwblhau cais papur y gellir dod o hyd iddo yma.
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ddefnyddio’r Ffurflen gais gyfun hon i wneud cais ar gyfer yr holl fathau o etholiadau.
Os ydych yn dymuno gwneud cais am bleidleisio drwy ddirprwy drwy’r post, cysylltwch â'r swyddfa os gwelwch yn dda.
Bydd angen i chi adnewyddu'r llofnod ar eich cais pleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu bob tair blynedd. Bydd angen adolygu eich llofnod ar gyfer eich pleidlais bost Etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol bob 5 mlynedd. Ond peidiwch â phoeni, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich llofnodion.
Ni fydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i wneud cais drwy'r post neu drwy ddirprwy. Er y bydd angen i'r dirprwy ddangos ei ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio. I gael gwybod mwy am ID Pleidleisiwr, ewch i'n tudalen Bwrpasol sy'n cynnwys llawer o gwestiynau cyffredin.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw un o'r newidiadau hyn, cysylltwch â'r tîm Cofrestru Etholiadol drwy e-bost yn electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk neu dros y ffôn ar 01446 729552.