Cost of Living Support Icon

Adolygiadau

Adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru

  

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (‘y Comisiwn’) yn gyfrifol am adolygu ffiniau etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer etholaethau’r Senedd yng Nghymru. Dyma ddechrau proses adolygu’r Comisiwn, nid ei diwedd. Dyma ein safbwyntiau cychwynnol. Yn ystod ein proses adolygu, rydym yn edrych ymlaen at glywed gan bobl Cymru ynghylch sut y gallai’r cynigion hyn gael eu diwygio a’u newid.

 

Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fil i ddiwygio etholaethau’r Senedd. Cafodd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ei gyflwyno ar 18 Medi 2023, a chafodd gydsyniad brenhinol ar 24 Mehefin 2024. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yn rhaid i’r Comisiwn ddychwelyd 16 o etholaethau’r Senedd, a ffurfir drwy gyfuno 2 o etholaethau seneddol y DU sy’n gyffiniol. Bydd pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan 6 Aelod o’r Senedd, a fydd yn dod â chyfanswm nifer yr aelodau i 96.

 

Rhaid i’r adolygiad gael ei gwblhau erbyn 1 Ebrill 2025, a bydd yn defnyddio 32 etholaeth seneddol newydd y DU i greu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd. Bydd argymhellion y Comisiwn yn cael eu gweithredu gan y rheol ‘awtomatigrwydd’. Felly, ni fydd angen i’r argymhellion gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Rhaid i’r penderfyniadau terfynol gael eu gweithredu fel y byddant wedi’u nodi yn adroddiad terfynol y Comisiwn.

 

Mae’r Comisiwn yn dechrau ar ei ymgynghoriad cychwynnol yn awr. Gall aelodau’r cyhoedd, grwpiau a sefydliadau gyflwyno ymatebion ysgrifenedig i’r cynigion cychwynnol a ddisgrifir yn y ddogfen hon o 3 Medi 2024 tan 30 Medi 2024.

 

Bydd y Comisiwn yn ystyried yn ofalus bob un o’r sylwadau a fydd yn dod i law, er mwyn gweld a ellir diwygio a gwella’r cynigion cychwynnol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r Comisiwn gydbwyso’r materion a godir mewn sylwadau â’r holl ffactorau eraill y mae’n rhaid i ni eu hystyried, yn ogystal â’r cyfyngiadau a nodir yn y ddeddfwriaeth.

 

Gellir dod o hyd i'r cynigion cychwynnol yma: CDFC Arolwg 2026: Cynigion Cychwynnol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad cychwynnol yw 30 Medi 2024.

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am gynigion cychwynnol y Comisiwn neu am agweddau eraill ar waith y Comisiwn, cysylltwch â:

 

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

 

Ffôn: 029 2046 4819

Ebost: ymholiadau@cdffc.llyw.cymru

Gwefan: www.cdffc.llyw.cymru

 

Comisiwn Ffiniau i Gymru 2023 - Arolwg Etholaethau Seneddol

Gellir dod o hyd i Arolwg y Comisiwn Ffiniau i Gymru drwy glicio ar y ddolen ganlynol:

 

comffin-cymru.gov.uk

 

Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei Gynigion Terfynol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.

 

Mae’r adroddiad Cynigion Terfynol, ynghyd ag Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol ar gael ar wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru:   

 

Adolygiad Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol 

 

Gellir gweld copi caled o'r mapiau sy'n ymwneud â'r adolygiad hwn yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri a hefyd yn Llyfrgell y Barri a Phenarth.