Swyddog Cyfrif (Gorsaf Bleidleisio)
Mae tair blynedd o brofiad fel Clerc Pleidleisiau yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Nodwch mai rhwng 6.30am a 10.30pm fyddai’r oriau gwaith.
Clerc Pleidleisiau (Gorsaf Bleidleisio)
Cynorthwyo’r Swyddog Cyfrif gyda dyletswyddau yn yr Orsaf Bleidleisio. Nodwch mai rhwng 6.30am a 10.30pm fyddai’r oriau gwaith.
Staff Cyfrif
Gwirio papurau pleidleisio, cyfrif papurau pleidleisio ac unrhyw ddyletswyddau cyfrif eraill yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys gwaith dros nos a/neu waith ar y penwythnos.
Staff Canfasio
Bydd canfaswyr yn cysylltu'n uniongyrchol â thrigolion. Mae angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnal canfasiad blynyddol o gyfeiriadau preswyl ym Mro Morgannwg. Diben y canfasiad yw cael gwybod am enwau a chyfeiriadau pobl sydd â hawl i gael eu cofrestru ond nad ydynt wedi’u cofrestru ar hyn o bryd a'r manylion y bobl hynny sydd wedi'u cofrestru ond nad oes ganddynt hawl i gael eu cofrestru.
Bydd canfasiad mis Hydref yn digwydd dros 3 wythnos (bydd gan ganfaswyr rywfaint o hyblygrwydd o ran y diwrnodau y byddant yn gweithio arnynt).
Yn Ganfasiwr, byddwch yn cael eich talu £1, fesul eiddo. Byddwch hefyd yn cael lwfans tanwydd.
Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion canlynol:
-
18 years of age or over
-
Have access to a vehicle
-
Willing to work anywhere in the Vale
-
Have the right to work (ID checks will be made)
-
Have the ability to use a tablet and our Paticip8 database (training will be provided)