Cost of Living Support Icon

Y Canfas Blynyddol 2023

Ymarfer cadarnhau i gynnal a diweddaru’r Gofrestr Etholiadol yw’r Canfasiad Blynyddol.

 

Yn rhan o’r Canfasiad blynyddol mae angen i Adran y Gofrestr Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mro Morgannwg i gadarnhau a yw’r wybodaeth sydd gennym ar y Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir. 

 

Mae fframwaith cyfreithiol sy’n nodi gofynion statudol y Canfasiad blynyddol ac fel Awdurdod Lleol mae’n rhaid i ni ofyn am y wybodaeth hon.  Caiff proses y Canfasiad ei threfnu a’i chynnal gan y Cyngor, ond caiff y Cyngor ei fonitro’n agos gan y Comisiwn Etholiadol.

 

Mewn blynyddoedd blaenorol, byddai Meddiannydd yr aelwyd fod wedi derbyn Ffurflen Ymholiad Aelwyd (FfYA) A3 binc i’w llenwi naill ai ar-lein, trwy linell ffôn awtomataidd neu ar bapur i’w dychwelyd yn yr amlen barod.  

 

Mae’r broses hon wedi newid erbyn hyn ac mae pob Awdurdod Lleol wedi bod yn cydweithio â Swyddfa’r Cabinet i wneud y newidiadau i’r Canfasiad blynyddol. Byddem yn ddiolchgar pe gallech gydymffurfio â’r gofynion isod.  

 

 

Bydd eich llythyr Gohebiaeth Canfasio yn cael ei bostio ar 30 Mehefin 2023 a'r dyddiad cau i ymateb yw 7 Awst 2023

 

PEIDIWCH ag ymateb i ffurflen WERDD oni bai bod eich gwybodaeth yn anghywir neu os oes angen ei diweddaru.

 

Fodd bynnag, oes cewch chi ffurflen BINC RHAID i chi ymateb yn brydlon. 

 

Os nad ydych wedi ymateb ar ôl derbyn y llythyr A4 Gohebiaeth Canfasio gychwynnol BINC gan 17 Gorffennaf 2023, efallai y byddwch yn derbyn neges atgoffa e-bost yn gofyn am ymateb yn brydlon i'r ffurflen. Ond dim ond os oes gennym eich cyfeiriad e-bost y byddwch yn cael e-ohebiaeth. Os ydych chi'n derbyn e-ohebiaeth Canfasio ac yn dymuno optio allan, rhowch wybod i ni.

 

Ar ôl y dyddiad cau 7 Awst 2023, bydd llythyr atgoffa PINC yn cael ei anfon at unrhyw un arall nad ydynt wedi ymateb. Mae’n bosib bydd unrhyw un sydd wedi derbyn ffurflen atgoffa BINC nad yw wedi ymateb erbyn dydd Llun 11 Medi 2023 yn derbyn galwad ffôn a/neu ymweliad dilynol o dŷ i dŷ. 

 

Byddem yn gwerthfawrogi ymateb prydlon yn ystod y broses hon.  

 

 

 

  • Os derbynioch chi lythyr A4 ar bapur GWYRDD caiff ei alw’n Ffuflen Cyfathrebiad Canfasio A.

  • Os derbynioch chi lythyr A4 ar papur PINC caiff ei alw’n Ffurflen Cyfathrebiad Canfasio B.

  • Os derbynioch chi lythyr A3 ar bapur PINC caiff ei alw’n Ffurflen Cyfathrebiad Canfasio.

 

Darllenwch y ffurflen yn ofalus. Gwiriwch fod pob person, sydd dros 14 oed, ac yn byw gyda chi wedi’i restru ar y ffurflen. Os oes gwybodaeth ar goll gwnewch nodyn o hynny ar y ffurflen yn y blychau priodol.

 

Noder: Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen holi am gyfathrebu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.

 

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn dychwelyd fy Ffurflen Ymholiad Tŷ? Caiff eich ymateb ei wirio gan y Swyddfa Gofrestru Etholwyr.

 

Os ydych wedi nodi unrhyw addasiadau, ychwanegiadau neu unrhyw beth i’w ddileu, caiff y rhain eu diweddaru a’u prosesu. Bydd y Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn ysgrifennu atoch os oes angen gweithredu ymhellach.

 

Os ydych wedi rhoi gwybod nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau, yna bydd hyn hefyd yn cael ei gadarnhau ar y Gofrestr Etholiadol.

 

Os ydych wedi darparu enw person i ni nad yw wedi’i gofrestru ar hyn o bryd ar y Gofrestr Etholwyr yna byddwn yn anfon Gwahoddiad i Gofrestru atoch yn y post. Gall y person hwnnw hefyd lenwi Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru ar-lein.

 

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol