Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Cytundebau Gefeillio a Chyfeillgarwch: Gall perthynas a threfi gefeillio fod â manteision eang iddi, gan gynnwys manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol go iawn.
Mae gan Fro Morgannwg Gytundebau Gefeillio gyda:
Cyswllt Cytundeb Gefeillio:
Mae gennym hefyd Gytundebau Cyfeillgarwch gyda:
Byddai'r Cyngor yn hapus i gynorthwyo a chefnogi grwpiau a sefydliadau cymunedol i feithrin cysylltiadau â'n trefi gefeillio. Gallai'r cymorth a'r gefnogaeth honno gynnwys:
Darparu manylion cyswllt allweddol yn ein trefi gefeillio
Cyfeirio sefydliadau a grwpiau at ffynonellau cyllid posibl, fel y gall cysylltiadau ddatblygu a thyfu
Nod y trefniadau gefeillio yw meithrin perthynas ryngwladol drwy ganolbwyntio ar weithgareddau a chyfnewid sy'n hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon ac addysg.
Mae'n bosibl i'r Cyngor, tra'n methu ariannu gweithgarwch gefeillio yn uniongyrchol, roi cyngor ac arweiniad i alluogi amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau sydd â diddordeb i:
Archwilio dichonoldeb a / neu bosibilrwydd teithio ar y cyd i’n trefi gefeillio
Archwilio dichonoldeb a / neu bosibilrwydd ymweliadau â Bro Morgannwg gan grwpiau a sefydliadau o fewn ein trefi gefeillio
Darparu dyddiadau a manylion digwyddiadau sydd wedi eu cynllunio ym Mro Morgannwg er mwyn caniatáu i grwpiau gysylltu rheiny ag ymweliadau gefeillio posib
Cyfeirio grwpiau at ffynonellau arian posibl i gynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu ymweliadau â Bro Morgannwg ac o Fro Morgannwg