Cost of Living Support Icon

Cynnwys Pobl Ifanc

Cael Llais, Cael Dewis 

 

 “Mae gan y plant yr hawl i ddweud beth maent yn credu y dylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt, ac mae ganddynt yr hawl i'w barn gael ei chymryd i ystyriaeth.” 

Erthygl 12: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) 

 

 

 

 

Vale-Youth-Service-logo

Am ymholiadau pellach, cysylltwch â:

  • 01446 709308 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau ar faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc yn eu cymunedau.  

 

Mae cyfranogiad ieuenctid yn grymuso pobl ifanc i gael llais ar benderfyniadau a wneir amdanynt. Mae'n caniatáu i bobl ifanc ymgymryd â rolau gwerthfawr yn eu cymunedau a dylanwadu ar ganlyniadau go iawn.  

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn annog pobl ifanc i gymryd rhan drwy gynnig y cyfleoedd canlynol i bobl ifanc:  

 

  • ymgynghori â nhw a chasglu eu syniadau a'u barn 
  • cymryd rhan mewn ymgynghoriadau lleol a chenedlaethol  
  • cynrychioli barn pobl ifanc i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y Fro 
  • cymryd rhan mewn Grwpiau Gweithredu Ieuenctid 
  • cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol 
  • dysgu am hawliau plant a phobl ifanc   
  • bod yn rhan o gyrff gwneud penderfyniadau oedolion (penderfynwyr allweddol/cynghorwyr lleol/aelodau'r Senedd/uwch arweinwyr ysgolion) 

 

Fel Gwasanaeth Ieuenctid, mae gennym nifer o gyfleoedd cyfranogiad ieuenctid ar gael i bobl ifanc:  

 

Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn cysylltu â sefydliadau cenedlaethol i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc y Fro yn cael eu clywed ar lwyfannau cenedlaethol.  Y rhain yw: 

 

Cafodd Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2007.  Mae'r 7 Safon yn nodi sut y gall plant a phobl ifanc fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau mewn ffyrdd ystyrlon ac effeithiol. Mae’n galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y broses o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau. 

 

Diweddarwyd y Safonau yn 2015 i sicrhau eu bod yn cael eu hategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Mae'r Ddeddf yn rhoi cynnwys plant a phobl ifanc, oedolion a chymunedau wrth wraidd gwella llesiant. 

 

Anogir sefydliadau a lleoliadau Addysg sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ymuno â'r Siarter Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol a Nod Barcud fel ffordd o ddangos y gwaith y maent yn ei wneud o ran cynnwys pobl ifanc.  Mae prosiect Llysgenhadon Hawliau'r Fro a reolir gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro yn mynd ati i hyrwyddo'r Safonau yn yr awdurdod lleol a gall gefnogi sefydliadau i gwblhau'r broses ymgeisio. 

Dyfarnwyd y Siarter Safonau Cyfranogiad i wasanaeth Ieuenctid y Fro ym mis Gorffennaf 2021 sy'n dangos ein hymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc.  Drwy ymrwymo i'r siarter mae'n gwneud datganiad o fwriad ein bod yn gweithio yn unol â'r Safonau Cyfranogiad. 

 

Rydym wedi datblygu polisi a chynllun gweithredu Cyfranogiad sy'n sicrhau bod hawliau pobl ifanc yn cael eu parchu a bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Gallwch weld ein Polisi Cyfranogiad yma.

 

VYS Participation Policy - YP Document (Welsh)

 

Gallwch ddysgu rhagor am ein prosiectau cyfranogi drwy wylio'r fideo isod, a chlywed gan rai o'n haelodau am eu profiadau.

Participation in the Vale - 22/23 (youtube.com)   

Charter Participation Standards