Gorchmynion Adsefydlu Ieuenctid (GAIau)
Gall plant o dan 18 oed gael eu dedfrydu i GAI yn y llys, a all bara hyd at 3 blynedd. Bydd y GAI yn cynnwys un neu fwy o ofynion, a fydd yn cael eu penderfynu gan y Llys yn dilyn asesiad gan y GCIChC. Bydd gweithiwr y GCIChC yn cydlynu gofynion y GAI, gan helpu'r plentyn i ddeall yr hyn y mae angen iddo ei wneud, ymgymryd ag ymyriadau a chymorth gyda'r plentyn, rhoi cymorth i'w rieni a'i ofalwyr os oes angen, a'i gefnogi i gwblhau ei Orchymyn. Bydd y gwaith yn cynnwys helpu'r plentyn i feddwl am ei ymddygiad a'r niwed y mae ei droseddu wedi'i achosi i ddioddefwr. Bydd gweithiwr y GCIChC hefyd yn helpu'r plentyn i ddelio ag anawsterau yn ei fywyd yn well, gan gynnwys cymorth i gael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth os oes angen, sy'n cael ei nodi fel ffactor pwysig iawn a all helpu i'w lywio i ffwrdd o ymddygiad troseddol.
Gorchmynion Atgyfeirio
Pan fo plentyn gerbron llys wedi'i gyhuddo o drosedd ac yn pledio'n euog, gall y Llys gyflwyno Gorchymyn Atgyfeirio. Yna, mae angen i'r plentyn fynychu panel Gorchymyn Atgyfeirio gyda'i rieni/gwarcheidwad. Mae o leiaf ddau wirfoddolwr o'r gymuned leol yn arwain y panel Gorchymyn Atgyfeirio, gydag aelod o'r GCIChC hefyd yn bresennol. Dan y Gorchymyn Atgyfeirio mae'r plentyn yn cytuno ar gontract gyda'r Panel, sy'n cynnwys ffocws ar adeiladu dealltwriaeth o effaith y drosedd ar y dioddefwr a'r gymuned ehangach, a sut i geisio gwneud iawn am hyn i’r dioddefwr neu'r gymuned neu drwy gefnogi cyfarfod adferol rhwng y plentyn a'r dioddefwr os cytunir ar hynny. Bydd y contract hefyd yn cynnwys rhaglen o ymyriadau a chymorth i leihau'r siawns o gyflawni troseddau pellach a chynyddu ei datblygiad cadarnhaol. Gall Gorchmynion Atgyfeirio barhau am hyd at 12 mis. Bydd yr euogfarn wedi’i ‘ddisbyddu’ ar ôl cwblhau’r contract yn llwyddiannus.
Goruchwylio ac Arolygu Dwys (GAD)
Mae hyn yn cael ei gynnwys fel un o ofynion GAI os yw'r llys yn penderfynu bod angen gwneud hyn fel dewis arall i ddedfryd o garchar er mwyn gallu ei gefnogi yn y gymuned gyda chymorth mwy dwys y gellir ei asesu yn ôl yr angen. Yn dilyn asesiad, mae'r GCIChC yn argymell i'r llys lefel y cymorth a'r hyn y dylai'r cymorth hwn ei gynnwys, gan gynnwys cyrffyw wedi'i fonitro'n electronig ar gyfer rhan gyntaf y GAI.
Rhaglenni Gwaith Mechnïaeth/Remánd
Mae gan y GCIChC ddyletswydd i gynnig gwybodaeth, cymorth mechnïaeth a phecynnau goruchwylio ar gyfer plentyn pan ofynnir iddo wneud felly gan y Llys. Pryd bynnag y bydd llys yn gwrthod mechnïaeth i blentyn (10-17 oed), mae angen i'r llys remandio’r plentyn i lety awdurdod lleol oni bai bod amodau penodol yn cael eu bodloni, ac os felly gall y llys remandio'r plentyn i Lety Cadw Ieuenctid. Mae'r GCIChC yn cefnogi plant a theuluoedd sy'n derbyn unrhyw un o'r canlyniadau hyn o'r llys cyn dedfryd.
Gwarchodaeth
Mae dau fath o ddedfrydau o garchar: Gorchymyn Cadw a Hyfforddi (GCH), a all fod rhwng pedwar mis a dwy flynedd o hyd, neu Orchymyn Adran 91/92, a all bara am flynyddoedd a mwy ac sydd ar gael dim ond pan geir dedfryd am drosedd ddifrifol iawn yn Llys y Goron. Mae plant yn cyflawni hanner cyntaf GCH neu Orchymyn Adran 91/92 mewn lleoliad carcharu i blant, a'r misoedd sy'n weddill yn y gymuned "ar drwydded" sy'n cael eu goruchwylio gan y GCIChC. Mae'r GCIChC yn gweithio'n agos gyda'r Carchar a'r Ystâd Ddiogel i gefnogi'r plant sy'n derbyn dedfrydau o garchar. Mae'r GCIChC yn ymweld â'r plant yn rheolaidd ac yn cwrdd â staff yr ystâd ddiogel, plant a'u teuluoedd i gynllunio rhaglenni gwaith tra byddant yn y ddalfa ac i gynllunio ar gyfer rhyddhau'r plentyn. Mae'n bwysig bod yr holl gynnydd da a wneir tra byddant yn y ddalfa yn parhau ar ôl rhyddhau, felly rydym yn gweithio gyda'r plant, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill i gael plant yn ôl i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac yn eu cefnogi i beidio â chyflawni rhagor o droseddau fel rhan o gynlluniau adsefydlu.