Bwlio
Mae bwlio’n ymddygiad sy’n brifo rhywun arall – megis galw enwau, taro, gwthio, rhannu straeon am bobl, bygwth neu danseilio rhywun.
Gall ddigwydd yn unrhyw le – yn yr ysgol, gartref neu ar-lein. Fel arfer mae’n digwydd dros gyfnod hir o amser, a gall frifo plentyn yn gorfforol ac yn emosiynol.
Yn aml, bydd bwlio sy'n digwydd ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol, gemau a ffonau symudol yn cael ei alw'n seiber-fwlio. Gall plentyn deimlo fel nad oes ffordd allan gan ei fod yn digwydd mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg o’r dydd neu gyda’r nos. - NSPCC
Does dim rhiant yn hoffi meddwl am ei blentyn yn cael ei fwlio, neu hyd yn oed yn waeth, yn bod yn fwli, ond mae’n ffaith bod dros hanner plant ynghlwm wrtho – un ai’n bwlio, yn dioddef bwlio neu’n dyst i fwlio.
Mae gan bob ysgol ym Mro Morgannwg Bolisi Gwrth-fwlio. Yn anffodus, does dim sicrwydd y bydd gweithredu gan yr ysgol yn unig yn stopio'r bwlio, felly mae'n bwysig eich bod chi'n cydweithio ag ysgol eich plentyn.
Os oes gennych bryderon, mae adnoddau i’ch helpu:
Mae gan Bullying UK ganllaw hanfodol i rieni a gofalwyr. Mae Bullying UK yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ar y mathau gwahanol o fwlio, siarad â’ch plentyn am fwlio, adnabod arwyddion a chyflwyno cwyn.
Bullying UK
Mae’r NSPCC yn rhoi cymorth uniongyrchol a help i blant a phobl ifanc ac mae’n cynnig hyfforddiant ac ymgynghori arbenigol i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant.
NSPCC
Mae Childline yn gallu helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU gydag unrhyw broblem y mae’n yn ei hwynebu. Mae ChildLine am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael ar unrhyw adeg, boed ddydd neu nos.
Childline
Mae Bullies Out yn sefydliad sy’n gweithio gydag ysgolion, colegau a sefydliadau i atal bwlio. Mae ganddo lawer o gyngor i rhieni a phobl ifanc.
Bullies Out
Mae YoungMinds yn cynnig cymorth i bobl ifanc ar deimladau a symptomau iechyd meddwl, sut i ymdopi a lle i gael help, mae hefyd ganllaw i rieni a gofalwyr i’w lawrlwytho.
Young Minds