Cost of Living Support Icon

Amddiffyn Plant

Lle bynnag y bo modd dylid cefnogi plant i dyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau eu hunain. Mae hawl hefyd gan blant a phobl ifanc i gael eu diogelu rhag niwed.

 

Adrodd am Broblem

Os credwch fod plentyn mewn perygl ar unwaith o gael niwed, cysylltwch â’r heddlu ar 999. Os credwch fod plentyn mewn perygl, neu ddim yn derbyn gofal cywir, neu bod gennych bryder am ei les/lles, cysylltwch â:

  • 01446 725202 / Allan o oriau: 029 20 788570


Os ydych yn cysylltu a ni ar ran rhywun, bydd raid i ni eich holi am y person hwnnw, megis:

  • Y rhesymau dros eich pryder
  • Cyfeiriad cartref ac oed neu ddyddiad geni’r plentyn
  • Enwau, cyfeiriadau ac oedrannau neu ddyddiadau geni aelodau teulu’r plentyn
  • Enwau gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r teulu, fel eu meddyg teulu neu ysgol
  • Os ydych yn tybio fod perygl diogelwch i unrhyw un sy’n ymweld â chartref y plentyn

Does dim angen i chi wybod popeth am y person er mwyn cysylltu â ni. Ein nod yw diogelu pwy ydych boed chi’n gofyn i ni wneud hynny ai peidio. Weithiau nid yw hynny’n bosib oherwydd y wybodaeth a roddir gennych neu oherwydd bod yn rhaid i’r achos fynd i lys barn.

 

Os am unrhyw reswm nad ydych yn teimlo yn gyfforddus i siarad â ni, dwedwch wrth rywun sydd yn adnabod y teulu, megis athro, meddyg, nyrs neu ymwelydd iechyd.

 

Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Mae’r Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol yn Bartneriaeth sy’n gyfrifol am weithio ynghyd i oruchwylio diogelwch a lles plant a phobl ifanc ar hyd a lled Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Mae gan bawb gyfrifoldeb i ddiogelu plant.  Gall pob plentyn gael ei frifo, fod mewn perygl o gael ei niweidio neu ei gam-drin, beth bynnag fo’i oedran, rhyw, crefydd neu ethnigrwydd.  Mae deddfwriaeth diogelu a chanllawiau’r llywodraeth yn dweud bod diogelu yn golygu:

 

  • Amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin
  • Atal unrhyw niwed i iechyd neu ddatblygiad plant
  • Sicrhau bod plant yn cael eu magu mewn amgylchedd sy’n cynnig gofal diogel ac effeithiol

 

www.bldpcaerdyddarfro.co.uk

 

 

Dewis-logoDewis Cymru

Ffeindiwch gwybodaeth am asiantaethau a sefydliadau amddiffyn plant ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru