Cost of Living Support Icon

Digwyddiadau a hyfforddiant i ofalwyr ledleg Bro Morgannwg

 

Cyfle dysgu i ofalwyr di-dâl

Atal a Rheoli Trais ac Ymddygiad Bygythiol – Rheoli Ymddygiad Heriol i ofalwyr di-dâl 

 

Bwriad y cwrs hwn yw:

 

  • Archwilio'r materion sy'n ymwneud â dicter, ymddygiad ymosodol, trais ac ymddygiad heriol
  • Gallu adnabod arwyddion cynnar a gweithredu strategaethau lleihau trais
  • Cydnabod sut mae ymddygiadau'n digwydd
  • Dysgu sut i gyfathrebu ag unigolyn dig i ddatrys gwrthdaro a dad-ddwysáu
  • Deall pwysigrwydd ymateb di-gorfforol/heddychlon i sefyllfaoedd.

Pryd a ble fydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal?


Pan:  Dydd Mawrth 17 Medi 2024,  10yb - 2yp
Ble: 
 Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU

 

Byddwch yn gallu archebu lle ar yr hyfforddiant hwn trwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon neu ffonio 01446 704604.

 

 

GIG Cymru Dechrau Coginio 

Cyflwynir Dechrau Coginio ledled y Barri gyda’r nod o wella gwybodaeth a sgiliau coginio ymarferol, gyda negeseuon ynghylch bwyta’n iach yn sail i’r cyfan. Mae’r sesiynau’n para 2 awr yr wythnos a cheir cyfanswm o 7-8 sesiwn sy’n hwyl ac yn anffurfiol.

 

Rhagor o wybodaeth

Dechrau Coginio – Lefel 1, 2 Gredyd – Sgiliau Maeth am Oes®

 

Er mwyn atgyfeirio, neu cliciwch yma:

 Dechrau Coginio - Cadw Fi’n Iach

 

Dewis Cymru logo

Mae Dewis Cymru yn gyfeirlyfr adnoddau cenedlaethol fel y gall pobl gael mynediad at wybodaeth gywir a chyfredol bob tro.

Dewis Cymru