Cost of Living Support Icon

 

Telecare Logo

Sut mae teleofal yn gweithio

Canllaw cam wrth gam ar sut mae gwasanaethau larwm teleofal yn gweithio.

Rydym yn gosod uned larwm yn eich cartref, gan ei chysylltu â'ch llinell ffôn a'ch soced trydan. Daw ein larymau gyda botwm bach, y gellir ei wisgo o amgylch eich gwddf neu ar yr arddwrn. Unwaith y bydd y botwm wedi'i wasgu, bydd galwad yn cysylltu'n ddiwifr â'r uned larwm ac yn parhau i ddeialu am gymorth.

 

 

Telecare Stage 1

Cam 1 – Gosod

Byddwn yn trefnu i osodwr hyfforddedig ymweld â'ch cartref ar amser cyfleus i osod yr offer.

 

Mae ein larymau yn defnyddio technoleg ddigidol ac fel arfer nid yw'r gwaith gosod yn cymryd mwy na 30 munud.

 

Byddwn yn rhoi taflen gyflwyno i chi ac mae mwy o wybodaeth bob amser ar gael drwy ffonio 01446 700111.

 

Telecare Stage 2

Cam 2 – Gwneud galwad yn defnyddio'r larwm

Os oes angen help arnoch, mae'n hawdd gwneud galwad yn defnyddio'r larwm o unrhyw le yn y cartref a'r ardd (mae'r signal yn estyn hyd at 300 metr) trwy wasgu'r botwm neu'r botwm mawr coch sydd wedi'i oleuo ar yr uned gartref.

 

Mae hyn yn cychwyn y prif larwm y tu mewn i'r uned Lifeline, a bydd yn deialu ein canolfan fonitro 24 awr yn awtomatig. 

 

Sylwer: Rydym yn eich cynghori i wasgu'ch botwm unwaith y mis i brofi'r system a hefyd i roi tawelwch meddwl i chi fod cymorth wrth law ac mai dim ond gwasgu'r botwm sydd ei angen.

 

Telecare Stage 3

Cam 3 – Galw am gymorth

Mae'r uned Lifeline yn deialu'r ganolfan fonitro yn awtomatig, lle mae gweithredwr hyfforddedig yn ateb ac yn medru gweld y manylion personol a roesoch i ni wrth ymuno â'r gwasanaeth ar unwaith.

 

Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys y canlynol:

  • Eich enw a chyfeiriad
  • Eich manylion meddygol
  • Manylion eich gweithiwr cymdeithasol a'ch manylion gofal a chymorth (os oes rhai)
  • Manylion eich meddyg
  • Manylion eich ymatebwyr allweddol
  • Manylion lle y cedwir allwedd yn ddiogel (os yw'n hysbys)
  • Unrhyw wybodaeth hanfodol arall

Cedwir yr wybodaeth hon yn gyfrinachol ac mae'n ddarostyngedig i'r Ddeddf Diogelu Data. Gallwch ddarllen Hysbysiad Preifatrwydd Teleofal ar-lein.

 

Telecare Stage 4

Cam 4 – Cymorth yn cyrraedd

Bydd y gweithredwr yn aros ar y ffôn nes bod help wedi cael ei alw.  Byddwn naill ai'n ffonio eich cyswllt brys neu'n anfon ein gwasanaeth ymateb cwympiadau sy'n cael ei redeg gan St John Ambulance.  Mewn argyfwng meddygol, byddwn yn cysylltu gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans ac yn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa fel y gallant eich helpu.

 

Cysylltwch â ni heddiw

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn teleofal ac yn hoffi cael gwybod mwy, cysylltwch drwy ffonio 01446 700111 neu drwy anfon e-bost at teleofal@valeofglamorgan.gov.uk. Gallwch hefyd lenwi ffurflen ymholiad am deleofal: