Cost of Living Support Icon

Dementia

Achosir dementia gan glefyd neu anhwylder sy’n effeithio ar yr ymennydd.

 

Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia, ond mae mathau gwahanol i’w cael – rhai sy’n llawer mwy prin nag eraill.

 

Fel arfer mae symptomau’n cynnwys colli’r cof ac anawsterau yn meddwl, datrys problemau neu gydag iaith. Maent yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen, gan effeithio hefyd ar hwyliau ac ymddygiad pobl. Gallant fynd yn rhwystredig, yn bigog, yn bryderus, yn drist neu gael eu cynhyrfu neu eu gofidio’n hawdd.

 

Mae dementia’n effeithio ar oddeutu 850,000 o bobl yn y DU. Mae angen cefnogaeth a chymorth arnynt o gyfnodau cynnar y sefyllfa fregus hon. 

Os oes pryderon gennych y gallai fod gennych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod ddementia, dylech fynd i weld eich meddyg teulu i ddechrau neu gysylltu â Llinell Gymorth Genedlaethol Dementia ar: 0300 222 1122


happy seniors friends

Y Fro Dementia-gyfeillgar

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ddementia trwy fynd i wefan Y Fro Dementia-gyfeillgar. Dyma eich canolbwynt ar gyfer adnoddau a chymorth dementia-gyfeillgar yn rhanbarth y Fro. Mae gwybodaeth am grwpiau, cymorth, busnesau Dementia-gyfeillgar a mwy:

 

 

Dewis Cymru Logo New

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw'r lle i fynd i gael gwybodaeth am wasanaethau i gefnogi eich iechyd a'ch lles. Efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol a gallwch hefyd wneud eich chwiliad eich hun: