Cost of Living Support Icon

Cynllun Parcio'r Bathodyn Glas

Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn helpu pobl sydd â chyfyngiadau difrifol wrth symud o gwmpas. Gall deiliad y bathodyn fod yn yrrwr neu’n deithiwr. 

 

Mae car sy’n arddangos Bathodyn Glas yn medru parcio’n agosach at siopau ac adeiladau cyhoeddus, er enghraifft mewn mannau parcio i bobl ag anabledd neu ar linellau melyn dwbl.

 

Cymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas

I gymhwyso ar gyfer bathodyn glas, rhaid bod un o'r meini prawf isod yn berthnasol i chi:

  • Plant ac oedolion sy'n derbyn elfen symudoldeb gyfradd uchel o’r Lwfans Byw i’r Anabl
  • Y sawl sy’n derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol (yr elfen symudoldeb)
  • Pobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall yn unol â Deddf Cymorth Gwladol 1948
  • Pobl sy’n derbyn Taliad Atodol Symudoldeb Pensiwn Rhyfel
  • Gellir rhoi bathodyn i bobl sydd ag anabledd parhaol neu salwch sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn iddynt gerdded yn dilyn asesiad gan weithiwr cymdeithasol neu therapydd galwedigaethol, neu ar sail tystiolaeth gan eu meddyg teulu

 

Gwneud Cais am Fathodyn Glas

Mae pob cais yn cael ei drin fel cais newydd. Ni ellir gwneud cais adnewyddu.

Fel arfer, mae Bathodyn Glas yn ddilys am gyfnod o dair blynedd, ac wedi hynny, gallwch gael eich asesu unwaith eto. Rydyn ni’n argymell gwneud cais am fathodyn newydd o leiaf pum wythnos cyn dyddiad terfyn eich bathodyn cyfredol. 

 

Bydd angen cyflwyno tystiolaeth o PIP, DLA neu lythyr gan Feddyg/Meddyg Ymgynghorol, os nad oes gennych yr un o’r rhain gallwch gyflwyno’ch cais a bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei asesu.

 

Gwneud cais ar-lein trwy .gov.uk

 

Nodwch: os ydych chi’n iau na 65 mlwydd oed, neu os nad ydych yn derbyn elfen Gyfradd Uchel Symudoldeb Lwfans Byw i’r Anabl, ac nid ydych wedi gwneud cais am Daliadau Annibyniaeth Bersonol, dylech wneud hynny cyn gwneud cais am Fathodyn Glas i’r car. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth eich bod yn gymwys ac yn hwyluso’ch cais. Ffoniwch 0800 9172222 am ffurflen gais Taliadau Annibyniaeth Bersonol.

 

Mannau Parcio i’r Anabl 

Mae mannau parcio i’r anabl, neu lecynnau parcio i bobl ag anabledd i roi eu henw swyddogol iddynt, yn cynnig parcio digyfyngiad i ddefnyddwyr cerbydau sy’n gymwys o dan Reoliadau Unigolyn ag Anabledd (Bathodynnau i Gerbydau Modur) Cymru 2000 ar hyn o bryd. 

 

Mannau Parcio i'r Anabl

 

 

Pan fyddwch chi’n derbyn eich bathodyn, rhoddir taflen wybodaeth i chi am y bathodyn a sut i’w ddefnyddio. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y daflen hon yn ofalus gan ei bod yn dweud wrthych sut na ellir defnyddio’r bathodyn.

 

Os ydych chi wedi newid cyfeiriad yn ystod y tair blynedd diwethaf, bydd angen i chi gysylltu â ni i roi manylion eich cyfeiriad newydd i ni: 

 

Cyswllt UnFro

Y Swyddfeydd Dinesig

Holton Road

Y Barri

Bro Morgannwg

CF63 4RU