Cost of Living Support Icon

Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid TDAR

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud:

Mae’r Tîm Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (TDAR) yn gyfrifol am gynnal asesiadau TDAR ar gyfer awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Mae TDAR wedi'i gynllunio i ddiogelu hawliau pobl os yw'r gofal a'r driniaeth y maent yn eu derbyn mewn cartref gofal neu ysbyty yn golygu eu bod yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid ac nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i gydsynio i'r trefniadau hynny.

 

Mae ein tîm yn cynnal asesiadau i edrych ar allu pobl ac i ddysgu beth sydd er eu budd gorau mewn perthynas â'u gofal, llety a thriniaeth gyfredol.

Rydym yn defnyddio fframwaith cyfreithiol TDAR i helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau a chynnal hawliau dynol pobl. Rydym hefyd yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws gwahanol dimau a sefydliadau i roi arweiniad a chymorth ynghylch defnyddio TDAR.