Cost of Living Support Icon

Trosglwyddo rhwng Ysgolion Uwchradd

Information and guidance about transferring between secondary schools.

 

Mae newid ysgolion uwchradd yn gam mawr i blant ei gymryd. Gall newid ysgol yng nghanol y flwyddyn neu ar ôl blwyddyn 7 amharu'n fawr ar barhad addysg plentyn ac achosi problemau o ran cydweddiad y maes llafur, trefniadau arholiadau ac ati.

 

Os yw’r rhieni o’r farn bod y broblem mor ddifrifol bod rhaid newid ysgol, yna awgrymir y dylent gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y broblem gyda’r ysgol yn y lle cyntaf, ac yna i ofyn am gyngor gan yr adran dderbyniadau cyn mynd ati i gyflwyno cais ffurfiol i drosglwyddo’r plentyn. 

 

Daeth Ysgol Stanwell yn ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024. Mae hyn yn golygu mai’r Cyngor fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol.  Bydd angen gwneud pob cais drwy ffurflen Trosglwyddo Ysgolion y cyngor fel isod.

 

Ffurflen Trosglwyddo Ysgol

Os bydd rhieni’n penderfynu eu bod am wneud cais i ysgol arall, dylent gyflwyno'r Ffurflen Trosglwyddo Ysgol i Adran Derbyniadau Ysgolion gael ei hystyried.  

 

 

 

Gan fod llawer o ysgolion yn y Fro yn llawn, ni ddylai rhieni dynnu eu plentyn o’r ysgol oni chytunwyd eisoes i’w dderbyn/derbyn mewn ysgol arall. 

 

Mae Proses Apelio os digwydd bod eich cais yn methu.

 

Mae ffurflenni cais ar gyfer Ysgolion a Gynorthwyir ar gael oddi wrth yr ysgolion eu hunain, ac rydym yn cynghori rhieni i gyfathrebu'n ysgrifenedig bob tro â'u dewis ysgol.