Cost of Living Support Icon

Trefniadau Paru

Nid yw'r Cyngor bellach yn gweithredu system ysgolion bwydo lle mae rhai ysgolion cynradd yn gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd. 

 

YSGOL STANWELL

 

Daeth Ysgol Stanwell yn ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024. Mae hyn yn golygu mai’r Cyngor fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol.  Bydd angen gwneud pob cais drwy Broses Derbyniadau Ar-lein y cyngor.

 

O ganlyniad i newid statws Ysgol Stanwell o Ysgol Sefydledig i Ysgol gymunedol a gynhelir o fis Medi 2024, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu trefniadau pontio ar gyfer y plant hynny a oedd yn mynychu un o ysgolion cynradd bwydo dynodedig Stanwell cyn y newid statws. Yr ysgolion bwydo dynodedig yw ysgolion cynradd Albert, Evenlode, Sili a Victoria. Mae’r trefniadau pontio hyn bellach yn rhan o bolisi derbyniadau’r Cyngor. Bydd y cyngor yn cadw’r cysylltiad ysgolion cynradd bwydo i Stanwell ar gyfer y plant hynny sy'n mynychu ysgol gynradd fwydo ddynodedig yn ystod blwyddyn academaidd 2023/2024.   Byddai pob plentyn o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 mewn ysgol fwydo ddynodedig yn ystod blwyddyn academaidd 2023/2024 yn cadw eu statws bwydo. Nid yw'r trefniadau pontio a'r cyswllt ysgol fwydo yn berthnasol i blant sy'n dechrau yn ysgolion cynradd Albert, Evenlode, Sili a Victoria o fis Medi 2024 ymlaen. Yn yr achosion hyn, byddai meini prawf gordanysgrifio y Cyngor yn berthnasol.

 

Bydd y trefniadau pontio yn dod i ben ar gyfer proses drosglwyddo blwyddyn 6 i addysg Uwchradd ym mis Medi 2030 pan fydd y plentyn olaf sy’n gymwys o dan drefniadau pontio yn gadael ei ysgol gynradd fwydo.

 

 

 

Stanwell School

 Ysgolion bwydo Trosiannol Ysgol Stanwell