Cost of Living Support Icon

Newid rhwng dwy Ysgol Gynradd

Information and guidance about transferring between primary schools.

 

Newid rhwng dwy Ysgol Gynradd: os yw rhieni’n penderfynu yr hoffent wneud cais i ysgol arall, dylid cyflwyno’r Ffurflen Newid Ysgol i’r Adran Derbyn i’r Ysgol ei hystyried.

 

Gan fod llawer o ysgolion wedi’u gordanysgrifio, ni ddylai plentyn gael ei dynnu o’r ysgol nes bod lle newydd wedi’i gadarnhau.

 

Nid yw’r Awdurdod Lleol yn annog newid ysgolion, a gall gwneud hynny yng nghanol tymor amharu’n sylweddol ar barhad addysg y plentyn. Os yw rhieni o’r farn bod y broblem mor ddifrifol bod rhaid newid ysgol, yna awgrymir y dylent gymryd pob cam rhesymol i ddatrys y broblem gyda’r ysgol yn gyntaf, ac yna i ofyn am gyngor gan yr adran dderbyniadau os oes angen, cyn gwneud cais i newid.

 

Ffurflen Newid Ysgol

I wneud cais am newid ysgol, llenwch Ffurflen Newid Ysgol a’i hanfon at yr Adran Derbyniadau Ysgolion i’w hystyried:

 

 

Anfonwch ffurflenni gorffenedig at:
Cyngor Bro Morgannwg

Dysgu a Sgiliau

Derbyniadau Ysgolion

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

Gan fod cymaint o ysgolion yn y Fro wedi’u gordanysgrifio, ni ddylai plentyn gael ei dynnu allan o ysgol oni bai bod lle newydd wedi’i gadarnhau.

 

neu e-bostiwch:

 

 

Pan fydd rhieni’n cyflwyno gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol er mwyn i’w plant gael eu hystyried ar gyfer ysgol a fyddai allan o’u cyrraedd fel arall, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu cynnig yn ôl. Gellid erlyn y rhieni hefyd o dan Adran 5(b) o Ddeddf Anudon 1911.