Y Cyngor yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl Ysgolion meithrin cymunedol a dosbarthiadau meithrin a gynhelir ym Mro Morgannwg. Ni ellir dyrannu lle meithrin cymunedol neu le wedi ei reoli heb gais ffurfiol. Bydd y Cyngor fel arfer yn derbyn plant sy’n dair blwydd oed ar ddechrau’r tymor (1 Medi, 1 Ionawr neu 1 Ebrill) hyd nes cyrraedd capasiti cymeradwy’r ysgol. Lle bo nifer y ceisiadau i gael lle mewn ysgol yn uwch na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio'r meini prawf derbyn canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth, fel y nodir isod, tan y cyrhaeddir y capasiti cymeradwy.
Dylai rhieni hefyd sylwi na fydd gan blant sy’n mynychu ysgol feithrin hawl ‘awtomatig’ i barhau â’u haddysg yn yr un ysgol pan fyddant yn symud i fyny i ddosbarth derbyn, boed nhw’n byw yn y dalgylch neu’r tu allan iddo. Bydd yn rhaid i rieni wneud cais ar gyfer eu hysgol ddewis (gweler adran Trefniadau Derbyn Addysg Gynradd). Gan nad yw addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle i blentyn mewn ysgol benodol.
Pan fo rhiant yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu fwriadol gamarweiniol er mwyn cael mantais mewn ysgol benodol ar gyfer ei blentyn, na fyddai hawl ar le gan riant ynddi fel arall, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig am le yn ôl.
Meini Prawf Gordanysgrifio Derbyn i Ysgol Feithrin
Y Cyngor yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer yr holl ysgolion meithrin cymunedol a dosbarthiadau meithrin mewn ysgolion gwirfoddol a reolir. Mae lleoedd yn cael eu dyrannu fesul tymor gan ystyried ceisiadau ar gyfer plant oedd yn dair oed ar neu cyn diwrnod olaf y tymor blaenorol (31 Awst, 31 Rhagfyr neu 31 Mawrth).
Bydd plant â datganiad Anghenion Addysgol Arbennig, pan fo’r ysgol wedi ei henwi fel y lleoliad mwyaf priodol, yn cael eu derbyn cyn cymhwyso’r meini prawf sydd ar waith pan fo mwy o alw nag o leoedd.
Mae pob cais yn cael ei flaenoriaethu’n unol â’r meini prawf gordanysgrifio waeth beth fo’r dyddiad cychwyn gyda’r feithrinfa. Bydd disgyblion sy’n byw yn y dalgylch neu sydd â chysylltiad brawd neu chwaer sy’n gymwys ar gyfer lle’n hwyrach yn y flwyddyn academaidd yn derbyn darpar leoedd cyn i geisiadau o’r tu allan i’r dalgylch gael eu dyrannu hyd yn oed pan fo’r ceisiadau o’r tu allan i’r dalgylch ar gyfer plant hŷn.
Wedi i ddyraniadau cychwynnol mis Medi gael eu gwneud, bydd unrhyw gynigion hwyr yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros/rhestr ddyrannu dymhorol a lleoedd yn cael eu cynnig ar y sail honno. Yn yr achosion hyn, bydd ceisiadau dalgylch hwyr, er enghraifft, yn cael mwy o flaenoriaeth na cheisiadau “prydlon” sy’n gymwys yn ôl meini prawf is.
Derbyn yn nhymor yr hydref (dyrennir ym mis Mai er mwyn cychwyn ym mis Medi)
1. Plant a fydd yn dair oed ar neu cyn 31 Awst a thystiolaeth wedi ei chyflwyno i gadarnhau eu bod yn derbyn gofal, neu wedi derbyn gofal yn flaenorol, gan awdurdod lleol yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
2. Plant a gafodd eu pen-blwydd yn dair oed cyn diwrnod olaf y tymor blaenorol ac sy’n byw yn nalgylch diffiniedig yr ysgol ar neu cyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer derbyn ffurflenni cais. Bydd angen tystiolaeth o’r preswyliad parhaol. Pan fo mwy o alw nag o leoedd yn y categori hwn yn unig, bydd y meini prawf isod, yn nhrefn eu blaenoriaeth, yn cael eu defnyddio i lunio trefn flaenoriaeth ar gyfer ceisiadau;
(a) Plant sydd â brawd neu chwaer hŷn yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r plentyn i gael ei dderbyn. (Pan fo mwy wedi dewis yr ysgol na sydd o leoedd ynddi, mae’r Cyngor yn pennu blaenoriaeth drwy ystyried oed y brawd neu’r chwaer ieuengaf sydd yn yr ysgol a’r ieuengaf yn cael y flaenoriaeth uchaf).
(b) Plant yn nhrefn gronolegol dyddiadau geni, yr hynaf yn cael ei dderbyn gyntaf. Os yw dau neu ragor o blant yn rhannu’r un pen-blwydd rhoddir blaenoriaeth i’r plant sy’n byw agosaf i’r ysgol yn ôl mesuriad y llwybr cerdded byrraf, y rhai sy’n byw agosaf fydd â’r flaenoriaeth. Mae’r Cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gyfrifo’r pellter o’r cartref i’r ysgol.
3. Plant a gafodd eu pen-blwydd yn dair oed cyn diwrnod olaf y tymor blaenorol ac y mae’r Cyngor yn barnu bod rhesymau meddygol neu gymdeithasol cryf dros eu derbyn i ysgol/dosbarth meithrin penodol, h.y. plant yr argymhellir eu lleoli am resymau meddygol, seicolegol neu addysgol arbennig. (Bydd angen argymhellion ysgrifenedig gan yr asiantau allanol priodol neu ymgynghorwyr proffesiynol mewn achosion o’r fath).
4. Plant a gafodd eu pen-blwydd yn dair oed cyn diwrnod olaf y tymor blaenorol ac y mae ganddynt frawd neu chwaer sy’n mynychu’r ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd y disgwylir derbyn y plentyn. (Pan fo mwy wedi dewis lle yn yr ysgol na sydd o leoedd ar gael ynddi, mae’r Cyngor yn pennu blaenoriaeth drwy ystyried oed y brawd neu’r chwaer ieuengaf sydd yn yr ysgol a’r ieuengaf yn cael y flaenoriaeth uchaf).
Derbyn yn nhymor y gwanwyn (Wedi eu dyrannu ym mis Hydref i gychwyn ym mis Ionawr)
5. Plant a fydd yn dair oed ar neu cyn 31 Rhagfyr a thystiolaeth wedi ei chyflwyno i gadarnhau eu bod yn derbyn gofal, neu wedi derbyn gofal yn flaenorol, gan awdurdod lleol yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
6. Plant a fydd yn dair oed ar neu cyn 31 Rhagfyr, ac sy’n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol ar neu cyn dyddiad cau cyhoeddedig derbyn ffurflenni dewis. Bydd angen tystiolaeth o’r preswyliad parhaol. Pan fo mwy o alw nag o leoedd yn y categori hwn yn unig, bydd y meini prawf ym mhwynt 2 uchod, yn nhrefn eu blaenoriaeth, yn cael eu defnyddio i lunio trefn flaenoriaeth ar gyfer ceisiadau.
Bydd pob cais arall yn cael ei flaenoriaethu drwy ddefnyddio pwyntiau 3 a 4 uchod.
Derbyn yn nhymor yr haf (dyrannu ym mis Ionawr er mwyn cychwyn ym mis Ebrill)
7. Plant a fydd yn dair oed ar neu cyn 31 Mawrth a thystiolaeth wedi ei chyflwyno i gadarnhau eu bod yn derbyn gofal, neu wedi derbyn gofal yn flaenorol, gan awdurdod lleol yn unol ag adran 22 Deddf Plant 1989.
8. Plant a fydd yn dair oed ar neu cyn 31 Mawrth, ac sy’n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol ar neu cyn y dyddiad cau cyhoeddedig er mwyn derbyn ffurflenni dewis. Bydd angen tystiolaeth o’r preswyliad parhaol. Pan fo mwy o alw nag o leoedd yn y categori hwn yn unig, bydd y meini prawf ym mhwynt 2 uchod, yn nhrefn eu blaenoriaeth, yn cael eu defnyddio i lunio trefn flaenoriaeth ar gyfer ceisiadau. Bydd pob cais dalgylch arall yn cael ei flaenoriaethu drwy ddefnyddio pwyntiau 3 a 4 uchod.
Ceisiadau sy’n Weddill
9. Pan fo lleoedd yn dal ar gael wedi dyrannu yn ôl y meini prawf uchod, bydd y gweddill yn cael eu dyrannu i blant a gafodd eu pen-blwydd yn dair oed cyn diwrnod olaf y tymor blaenorol (31 Awst, 31 Rhagfyr neu 31 Mawrth) gyda blaenoriaeth i’r rhai sy’n byw agosaf i’r ysgol/dosbarth meithrin yn ôl y llwybr cerdded byrraf, a’r rhai sy’n byw agosaf gaiff flaenoriaeth. Mae’r Cyngor yn defnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i gyfrifo’r pellter o’r cartref i’r ysgol.
Prawf Preswylio
Ym mhob achos, rhaid cyflwyno tystiolaeth o fan preswylio parhaol plentyn ar adeg gwneud y cais. Bydd unrhyw le a gymeradwyir ar sail preswyliad yn cael ei dynnu nôl os nad yw’r disgybl yn preswylio yn y cyfeiriad hwnnw ar ddechrau’r tymor ysgol sy’n berthnasol i’r cais.
Pan fo plentyn yn byw'n barhaol mewn dau gyfeiriad yn ystod wythnos ysgol, yna y cyfeiriad cartref fydd y cyfeiriad lle mae'r plentyn yn byw y rhan fwyaf o'r wythnos (e.e. 4 diwrnod o 7). Bydd yn rhaid i rieni gyflwyno tystiolaeth ddogfennol sy’n cadarnhau bod y plentyn yn byw yn y cyfeiriad y dymunant ei ddefnyddio wrth ystyried dyrannu lleoedd. Bydd angen i’r dystiolaeth fod ar ffurf dogfennau cyfreithiol, cadarnhad o Fudd-dal Plant, tystiolaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol neu weithwyr proffesiynol eraill.
Diddymu Cynnig Lle
Pan fo rhiant yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu fwriadol gamarweiniol er mwyn cael mantais mewn ysgol benodol ar gyfer ei blentyn, na fyddai hawl ar le ynddi fel arall, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig o le yn ôl.
Derbyn i Ddosbarthiadau Meithrin: Cwestiynau ac Atebion
Rwyf wedi rhoi enw fy mhlentyn ar gyfer fy ysgol ddewis ers iddo gael ei eni. Ydy hynny’n sicrhau y caf i le neu y bydd gen i fantais dros ymgeiswyr eraill? Nac ydy. Er bod ysgolion yn ei chael yn ddefnyddiol cadw rhestrau weithiau, nid yw’r rhestrau hynny’n berthnasol i’r broses dderbyn. Rhaid i rieni wneud cais o hyd drwy'r awdurdod derbyn i gael lle yn yr ysgol. Caiff y cais ei brosesu gan ddefnyddio ceisiadau a dderbynnir a thrwy gymhwyso'r meini prawf derbyn cyhoeddedig. Nid oes mantais bod enw eich plentyn ar restr gan ysgol.
Mae gennyf blentyn arall yn mynychu fy ysgol ddewis, ond rydyn ni’n byw allan o'r dalgylch. A yw brawd neu chwaer yn yr ysgol yn rhoi fy mhlentyn mewn maen prawf uwch? Mae brawd neu chwaer yn yr ysgol yn rhan o'r meini prawf a ddefnyddir, ond nid yw'n gwarantu lle i chi yn eich ysgol ddewis. Bydd plant y dalgylch yn dal i gael blaenoriaeth bob amser.
Mae fy nhrefniadau gofal plant yn golygu ei bod yn bwysig imi gael lle yn fy ysgol ddewis, sydd y tu allan i'm dalgylch. A gaiff hyn ei ystyried? Yn anffodus, ni ellir ystyried trefniadau gofal plant. Caiff plant y dalgylch bob amser y flaenoriaeth uchaf dros blant o'r tu allan i'r dalgylch.
Pryd bydd fy mhlentyn yn gymwys i ddechrau?
Os yw eich plentyn yn dair rhwng:
1 Ebrill a 31 Awst (yn cynnwys y rhain) Bydd yn bosibl derbyn eich plentyn ar gyfer Tymor yr Hydref canlynol (mis Medi)
1 Medi a 31 Rhagfyr (yn cynnwys y rhain) gellir derbyn eich plentyn yn ystod Tymor y Gwanwyn (mis Ionawr)
1 Ionawr a 31 Mawrth (yn cynnwys y rhain) gellir derbyn eich plentyn yn ystod Tymor yr Haf (mis Ebrill)
Gall eich plentyn ddechrau addysg amser llawn y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair, felly, yn dibynnu ar ei ddyddiad geni gall fynychu'r feithrinfa am hyd at 5 tymor.