Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Er mwyn cyflawni hynny, mae Llywodraeth Cymru’n credu bod angen gwneud sawl peth, gan gynnwys:
mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg;
cynllunio gwell o ran sut y mae pobl yn dysgu’r iaith;
cyfleoedd amlycach i bobl ddefnyddio’r iaith;
seilwaith cryfach a chwyldro i wella darpariaeth ddigidol yn Gymraeg; a
newid y ffordd yr ydym yn ei thrafod.
Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ar y sail honno, nod strategaeth Llywodraeth Cymru fydd bron iawn dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif.
Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn blaenoriaethu 6 phrif faes gweithredu:
Cynllunio ieithyddol a pholisi iaith
Normaleiddio
Addysg
Pobl
Cefnogaeth
Hawliau
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai’r system addysg yw’r brif ffordd o sicrhau y gall plant ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, a chreu siaradwyr newydd.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer 2017-2020 yn cyflwyno datganiad gweledigaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac Addysg Gymraeg yn yr awdurdod.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar 7 canlyniad allweddol:
mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel canran o garfan Blwyddyn 2;
mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd;
mwy o ddysgwyr yn astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg;
mwy o ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed yn astudio’r Gymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg; a
mwy o ddysgwyr gyda gwell sgiliau Cymraeg.
Darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr gydag Anghenion
Ychwanegol cynllunio gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017 i 2020
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bro Morgannwg, cysylltwch â Jeremy Morgan.