Hybiau Seren
Mae 12 Hyb Seren rhanbarthol ledled Cymru. Mae pob hyb yn gwahodd y myfyrwyr mwyaf disglair i ymuno â'r rhaglen ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Mae'r dewis yn seiliedig ar ganlyniadau TGAU rhagorol.
Arweinir hybiau gan gydlynydd seren ymroddedig sy'n cynllunio ac yn trefnu calendr o ddigwyddiadau. Mae yna hefyd ddigwyddiadau traws-hybiau sy'n galluogi myfyrwyr i fynychu amrywiaeth ehangach o weithgareddau.
Cysylltu â Chydlynydd Hyb Seren y Fro
I gysylltu â Chydlynydd Hyb Seren y Fro, cysylltwch â Nisha Shukla:
Mae Cylchlythyr Seren yn cael ei ddosbarthu i ysgolion bob pythefnos. Mae'r cylchlythyrau hyn yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau cyfredol megis:
-
Dosbarthiadau meistr digidol
-
Sesiynau paratoi ar gyfer profion
-
Seminarau
-
Diwrnodau agored
-
Sgyrsiau
-
Ysgolion haf a chyfnodau preswyl