Cost of Living Support Icon

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg / Addysg Grefyddol

Mae angen i bob awdurdod lleol (ALl) sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) / Addysg Grefyddol (AG) (CYSAG) yn ei ardal leol.

 

Swyddogaethau CYS/CYSAG

WASACRElogo

Prif swyddogaethau CYS/CYSAG yw:

  • cynghori'r ALl am CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru
  • cynghori'r ALl am AG
  • cynghori'r ALl am gydaddoli
  • ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gytuno ar faes llafur cytunedig a’i adolygu, gan sicrhau bod y maes llafur cytunedig, ar gyfer CGM, yn adlewyrchu credoau crefyddol a hefyd gredoau anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr A2P1
  • ystyried ceisiadau gan ysgolion ar gyfer penderfyniadau (i’w heithrio o’r gofyniad i addoli fod yn “Gristnogol”)
  • cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei waith
  • chwarae rhan yn y weithdrefn gwyno statudol leol lle mae achosion sy’n ymwneud ag AG neu gydaddoli’n cael eu cyfeirio ato

 

Gall cyngor ymwneud â’r canlynol:

  • addysgeg

  • y dewis o adnoddau addysgu

  • darparu dysgu proffesiynol

  • unrhyw fater arall sy'n ymwneud â CGM, AG, a chydaddoli y mae CYS/CYSAG yn ei ystyried yn briodol

 

Aelodaeth o CYS/CYSAG Bro Morgannwg:

 

Cynrychiolwyr o draddodiadau crefyddol, enwadau a deiliaid credoau anghrefyddol

Er mwyn optimeiddio effeithlonrwydd y CYSAG, ceisir aelodau o ystod eang o draddodiadau crefyddol a cheisir hefyd aelodau sy'n cynrychioli deiliaid credoau anghrefyddol a all fod yn uniongyrchol bresennol ym Mro Morgannwg ar unrhyw adeg.

 

12 lle o ystod o grefyddau, enwadau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, a allai gynnwys y canlynol er enghraifft:

  • Yr Eglwys yng Nghymru

  • Yr Eglwys Gatholig

  • Eglwysi Rhydd

  • Ffydd Bahâ’í

  • Bwdhaeth

  • Hindŵaeth

  • Islam

  • Iddewiaeth

  • Siciaeth

  • Dyneiddiaeth

 

Cynrychiolwyr Athrawon

8 lle o ystod o gymdeithasau athrawon. Rhaid i’r cynrychiolydd athrawon fod yn cael ei gyflogi ac yn gweithio mewn ysgol ym Mro Morgannwg.

 

Yr ALl

6 aelod yn cynrychioli'r ALl.

 

Aelodau cyfetholedig (heb unrhyw hawliau pleidleisio)

Hyd at 4 aelod sydd â diddordeb mewn CGM, AG a chydaddoli ac sy’n gallu cynorthwyo'r pwyllgor wrth gyflawni ei swyddogaethau.

 

Mae rhestr o aelodau CYSAG Bro Morgannwg wedi ei nodi yn yr Adroddiad Blynyddol 2022-23:

Meysydd Llafur Cytunedig

Gellir gweld maes llafur cytunedig lleol Bro Morgannwg ar gyfer CGM yma:

 

Gellir gweld maes llafur cytunedig lleol Bro Morgannwg ar gyfer AG (cwricwlwm etifeddiaeth) yma:

Datblygu'r cwricwlwm a'r maes llafur cytunedig ar gyfer CGM.

Mae CYSAG Bro Morgannwg wedi cael diweddariadau tymhorol a chyngor manwl gan Ymgynghorydd Cyswllt Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De (GACCCD) ar gyfer AG/CGM a CYSAG ynghylch datblygiadau'r cwricwlwm fel y maent yn ymwneud ag AG/CGM a chydaddoli cyn mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru.

 

O ganlyniad i basio Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), bydd AG yn cael ei galw’n 'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg' (CGM) o fis Medi 2022 ymlaen. Bydd CGM yn ofyniad cwricwlwm statudol o 3 oed tan 16 oed a bydd yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

 

Ym mis Chwefror 2022, cymeradwyodd y Gynhadledd Sefydlog ail-fabwysiadu maes llafur cytunedig cyfredol Bro Morgannwg ar gyfer AG, gyda dealltwriaeth y byddai'r maes llafur yn cael ei ddisodli gan faes llafur cytunedig y Cwricwlwm i Gymru wrth iddo gael ei gyflwyno ar draws ysgolion a lleoliadau o fis Medi 2022. Mae ysgolion uwchradd wedi cael eu cynghori i barhau i ddilyn y maes llafur hwn nes cwblhau'r gwaith o gyflwyno CGM.

 

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw darparu cwricwlwm cynhwysol a gaiff ei arwain gan bwrpas. Fel rhan o'r cydraddoldeb mynediad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi newid y ddeddfwriaeth o ran hawl rhieni i dynnu eu plant o CGM. Ni all rhieni dynnu eu plant o CGM mwyach o fewn Cwricwlwm i Gymru 2022. Caniateir hawl cyfreithiol rhieni i dynnu eu plant o gydaddoli o hyd gan fod CGM a chydaddoli’n endidau ar wahân. Cynhaliodd y CYSAG drafodaethau am ymholiadau a phryderon posibl gan randdeiliaid yn y dyfodol o ran y mater hwn. Ystyriodd y CYSAG y newidiadau i CGM fel un o ofynion statudol y Cwricwlwm i Gymru gan nodi ei fod yn orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.  Trafododd y CYSAG y ffaith bod maes llafur cytunedig newydd Bro Morgannwg yn adlewyrchu’r canlynol:

  • mae’r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf yn y ffydd Gristnogol tra'n ystyried arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru

  • mae ystod o gredoau athronyddol anghrefyddol yn cael eu harddel yng Nghymru

 

Trafododd y CYSAG fod angen i ysgolion a lleoliadau Bro Morgannwg hefyd nodi’r newidiadau deddfwriaethol canlynol a fydd yn cael effaith sylweddol ar ysgolion:

  • Nid oes hawl gan rieni i dynnu eu plant o bwnc academaidd CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru

  • Rhaid i ysgolion a gynhelir gyda phlant oedran meithrin a lleoliadau meithrin a ariennir ond nas cynhelir ddarparu CGM i'w holl ddysgwyr o 3 oed o fis Medi 2022

 

Mae'r Canllawiau CGM yn cynnig cysyniadau CGM penodol, yn ogystal â'r cysyniadau a ddarperir yn Natganiadau'r Dyniaethau o’r Hyn sy’n Bwysig. Mae’r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn y maes hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymgysylltu'n feirniadol ag ystod eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol, y dylid eu hystyried yn ofalus ac y dylent fod yn sail i’r gwaith o ddylunio'r cwricwlwm.

 

Bydd CYSAG Bro Morgannwg yn parhau i ddarparu deunyddiau cefnogol, yn ogystal â'r maes llafur cytunedig, er mwyn cefnogi ymarferwyr yn eu gwaith o gynllunio’r cwricwlwm ac o ran addysgeg, gan gynnig gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau eang i ddysgwyr ledled y rhanbarth. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a'u cynllunio i ddarparu cefnogaeth barhaus i ymarferwyr.  Y bwriad yw i'r rhain fod yn ddogfennau, deunyddiau ac adnoddau ‘byw’ i adlewyrchu esblygiad y Cwricwlwm i Gymru. 

Cysylltu a chyngor

Hoffai’r aelodau atgoffa ymarferwyr sy'n ymwneud ag AG/CGM bod y CYS/CYSAG yma i'w cefnogi gyda chyngor ar addysgu, dysgu ac adnoddau. Yn ogystal, mae cefnogaeth gan y CYS/CYSAG hefyd ar gael ar gyfer Cydaddoli Dyddiol.

 

Mae CYS/CYSAG Bro Morgannwg yn croesawu gohebiaeth drwy:

Glerc CYS/CYSAG Bro Morgannwg: governors@valeofglamorgan.gov.uk