Rydyn ni eisiau gweld sylw canolog ar bresenoldeb eto, ac i deuluoedd a'u plant anelu'n uchel. Rydym yn ymwybodol o'r amgylchiadau sensitif ac anodd iawn a all atal rhai pobl ifanc rhag dod i'r ysgol yn rheolaidd ac mae cymorth ar gael bob amser i helpu yn yr amgylchiadau hyn, ond mae angen gwella presenoldeb cyffredinol.
Mae 95% yn swnio'n uchel i fod yn darged ond mae hynny'n dal i ganiatáu absenoldeb am chwe diwrnod yn y flwyddyn ysgol os oes angen oherwydd salwch ac mae'r targed hwn yn gyraeddadwy i'r mwyafrif o bobl ifanc.
Rydyn ni eisiau gweld presenoldeb yn gwella fel bod pob person ifanc yn y Fro yn ymgysylltu â'u hysgol a'u haddysg ac yn gallu ffynnu mewn bywyd drwy fanteisio ar yr holl gyfleoedd y mae ysgolion yn eu cynnig.