Ymweliadau Addysgol
Mae pecyn o adnoddau i athrawon ar gael ar wefan Llanilltud, gyda’r nos o amlygu beth sy’n gwneud Eglwys Illtud Sant mor arbennig ac i helpu athrawon i gynllunio, cyflawni a dilyn ymweliad gyda chymorth y tîm o Groesawyr.
Mae’n rhaid cynnal cyn-ymweliad i drafod diben a ffocws y profiad dysgu a’r gweithgareddau fydd yn cael eu cynnal.
Ar ddiwrnod yr ymweliad, fe’ch croesewir i’r Eglwys ac yn helpu i arwain y gweithgareddau, os yw’n briodol, yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae’r Croesawyr, disgyblion ac athrawon yn gwisgo mewn gwisg mynach yn ystod yr ymweliad a chaiff disgyblion eu cyflwyno â rhodd fach cyn gadael.
Mae disgwyl i’r ymweliad bara oddeutu dwyawr, yn dibynnu ar y gweithgareddau a ddewiswyd.
- Ar ochr ddwyreiniol yr Eglwys, mae Capel Galilee o’r 13eg ganrif, gafodd ei dinistrio yn ystod y Diwygiad. Fodd bynnag, ar ôl tua 400 o flynyddoedd, mae wedi’i adfer ac yn ganolfan addysg ac ymwelwyr. Yng nghanol ei ofod arddangos mae un o gasgliadau cerrig Celtaidd Cristnogol mwyaf y DU.
- Does dim ardaloedd parcio ger yr Eglwys, ond gall bysus ollwng y disgyblion yn agos, lle bydd aelod o’r tîm o Groesawyr yn cwrdd â nhw ac yn mynd â nhw i’r Eglwys. Yna, gall bysus barcio ger yr orsaf reilffordd yn y dref.
- Mae toiledau ar gael ar y safle.