Ymweliadau Addysgol
Teithiau o’r amgylchedd unigryw hwn ar ein profiad tractor a threlar penigamp. Mae'r daith gyffredinol yn cyflwyno'r fferm ond gallwch hefyd edrych ar elfennau penodol fel bioamrywiaeth bywyd anifeiliaid a phlanhigion neu'r cylch bywyd wrth gynhyrchu bwyd (anifeiliaid a phlanhigion); fel arall gallant gynnig cipolwg ar gynllunio a gweithredu ochr fusnes ffermio.
Mae’r beudai’n lle i gynnal darlithoedd a chyflwyniadau gyda lle i eistedd ar fyrnau gwellt, mae gan y beudai drydan, sgriniau PowerPoint symudol a siartiau fflip.
-
Gallu sefydlu ardaloedd ar gyfer picnics ar gais.
-
Cynhyrchu llysiau a ffrwythau gyda gardd farchnad sy'n tyfu cnydau organig tymhorol.
-
Digon o le i barcio bws mawr a hyd at 10-25 o geir yn dibynnu ar y tywydd.
-
Da byw’n cynnwys 80 o Foch Hen Smotiau Caerloyw, brîd prin iawn, 700 o ddefaid Romney, Texel a Suffolk pedigrî yr ydym yn eu bridio a 120 o wartheg Aberdeen Angus a Henffordd.
-
Yn fferm ecolegol a bioamrywiol nodedig gyda chynefinoedd unigryw ar gyfer planhigion, pryfaid, adar a mamolion.
-
Tyfu ceirch ar gyfer uwd organig, gwenith a sbelt ar gyfer blawd organig, a ffa a haidd organig i fwydo’r anifeiliaid yn ystod misoedd y gaeaf.
-
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ardal weirdir
-
Cyfleusterau toiled hygyrch i'r anabl.