Ymweliadau Addysgol
Yn wreiddiol, roedd yr acer hon o dir, sydd wedi’i hamgylchynu gan Furiau Tref canoloesol, yn ardd ffurfiol tŷ tref y teulu Edmondes a gafodd ei adeiladu ym 1740. Ers 2005, mae’r Waliau a’r Gerddi wedi bod yng ngofal Ymddiriedaeth Siarter y Bont-faen, sydd wedi adfer a chynnal a chadw’r waliau ac wedi trawsffurfio Gerddi’r Hen Neuadd, gyda’r prif nod o annog bioamrywiaeth. Mae Gerddi’r Hen Neuadd wedi derbyn y Faner Las y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n deyrnged i arfer amgylcheddol da.
Mae Man Stori awyr agored drws nesaf i’r Llyfrgell, sydd â lle ar gyfer 40 o blant a bydd ganddo do pob tywydd yn nes ymlaen eleni. Mewn tywydd glawog neu oer iawn, mae’n bosibl trefnu defnyddio dosbarth dan do yng Ngholeg Cymunedol yr Hen Neuadd.
Mae’r Gerddi’n gweithio’n dda yng nghyd-destun Ysgolion Coedwig gan fod cymaint o amrywiaeth o gynefinoedd ar gael i’w gweld mewn lle bach, ac maent yn wych at ddibenion addysgu.
Mae dau lyfr gwaith ar gael: un yn trafod bioamrywiaeth y gerddi, a’r llall yn trafod yr hanes. Gall arbenigwyr ar fioamrywiaeth, garddwriaeth a hanes fod ar gael i gyfrannu at ymweliadau ysgol.
-
Bwydwyr a blychau nythu sy’n cefnogi ystod o adar.
-
Strwythurau hynafol a gwerthfawr, sy’n allweddol er mwyn dysgu cefndir hanesyddol a diwylliannol y dref
-
Dôl blodau gwyllt fywiog, gyda llawer o flodau sy’n gynhennid i gaeau gwair traddodiadol o’r gwanwyn i’r hydref. Borderi o flodau, sy’n atynnu ieir fach yr haf a gwyfynod. Border y Ddraig yn seiliedig ar gerflun y Ddraig yn Cysgu, a’r Ogof Helyg.
-
Llyn mawr gyda madfallod dŵr a llyffantod (penbyliaid yn dymhorol), hwyaid gwyllt, gweision y neidr, ynghyd â phlanhigion dŵr ac ymylol, sy’n dda er mwyn adnabod y creaduriaid sy’n byw yn y dŵr.
-
Mae toiledau ar gael yn y Llyfrgell a’r Hen Neuadd.
-
Coed hynafol gydag ychydig o goed prin, sy’n dda er mwyn adnabod dail a hadau, ac maent yn gartref i lawer o adar.
-
Llwybr y Bylchfur sy’n cynnwys planhigion Mediteranaidd sy’n caru’r haul; mae gan lawer ohonynt ddail ag arogl.