Profiad Addysgol Hanesyddol
Sgyrsiau a theithiau hanesyddol dyddiol y tu mewn i'r castell ac o amgylch y pentref canoloesol lle gall plant ryngweithio gydag anifeiliaid yn y fferm a dysgu am hanes y cyfnod canoloesol hwn a sut y byddai fferm wedi edrych, ac arogleuo a sut deimlad fyddai bod yno. Gall y plant ddysgu am sut y tyfodd y fferm a gwneud defnydd o'i llysiau, ei da byw ei hun, a sut ddiwrnod fyddai diwrnod nodweddiadol yn yr oes hon.
Bydd plant yn ganolog i brofiad dysgu rhyngweithiol sy'n defnyddio pob synnwyr i greu effaith gwirioneddol ar eu gallu i gofio digwyddiadau allweddol yn yllinell amser hanes.
Ail-greu byw ac adrodd straeon gan Ross O' Hennessy, a fu gynt yn chwarae rhan 'y Prif Ynad' yn y pentref canoloesol ym Mharc Gwledig Llynoedd Comeston. Bydd Ross a'i dîm yn ennyn brwdfrydedd plant ac yn eu cynnwys yn y profiad llawn o fod yn rhan o fywyd yn y pentref canoloesol gan gynnwys dysgu sgiliau a ffeithiau diddorol am wneud bara a chreu canhwyllau cwyr.