Gwasanaeth Danfon i'r Cartref Am Ddim
Gellir danfon nwyddau mislif am ddim yn uniongyrchol i gartref disgyblion mewn ffordd ddiogel, ymarferol ac urddasol. Mae'n rhiad i bobl ifanc naill ai fyw neu fynychu'r ysgol ym Mro Morgannwg i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Ein nod yw sirchau nad oes unrhyw un yn llithro drwy'r rhywd a bod darpariaeth ar gael i bob dysgwr sy'n cael mislif.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig dosbarthu bag safonol bob tymor (teirgwaith y flwyddyn) sy'n cynnwys y canlynol:-
Dau flwch o badiau maint canolig/dydd, dau flwch o badiau mawr/nos a dau flwch o badiau leinin ysgafn.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol na all rhai pobl ddefnyddio nwyddau penodol, neu nad ydynt m wneud hynny. Felly nid yw cynnig 'safonol' o nwyddau bob amser yn briodol. Felly, mae amrywiaeth o nwyddau ecogyfeillgar, gan gynnwys eitemau y gellir eu hailddefnyddio, ar gael ar gais. Gofynnwch am y math o gynnyrch sy'n gweddu orau i chi sydd gennym ar hyn o bryd:
Nwyddau Defnydd Untro
- Tamponau a dodwr - Cyffredin/Mawr
- Tamponau heb ddodwr - Cyffredin/Mawr
- Padiau Canolig / Dydd
- Padiau Mawr / Nos
- Padiau leinin ysgafyn
Cynhyrchion Amldro
- Dillad Isaf Mislif - meintiau 2-22
- Padiau Amldro
- Cwpanau mislifol - bach / mawr


Cliciwch ar y botwm isod i gofrestrau a gofyn am eich nwyddau am ddim gan roi enw, ysgol, grwp blwyddyn a chyfeiriad y disgybl er mwyn sicrhau y gallwn ymateb cyn Gynted a phosibl.
Cofrestrwch yma ar gyfer danfoniadau am ddim i'r cartref