Cost of Living Support Icon

Swyddi gwag i Lywodraethwyr Awdurdodau Lleol

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd Ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol fel llywodraethwyr ysgol Awdurdod Lleol (ALl).

 

Ysgol Stanwell - Haf 2024

 

Gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol llywodraethwyr ysgol yr Awdurdod Lleol (ALl) yn Ysgol Stanwell.  Bydd Panel Penodiadau Llywodraethwyr yr ALl yn ystyried ar sail y cyfraniad y gall ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad.

 

Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys: -

 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol wedi ei fesur o ran meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyd-fynd â heriau'r ysgol unigol.
  • Y cyfraniad a wneir yn ystod cyfnod yn y swydd a phresenoldeb rheolaidd.
  • Awydd gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg o fewn yr ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.
  • Gwybodaeth a diddordeb yn y gymuned y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.
  • Gwybodaeth am faterion addysg fodern.
  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn rheolaidd yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau o'r corff llywodraethu y maent yn cael eu hethol iddynt.
  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr i ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu gallu a'u heffeithiolrwydd fel llywodraethwr.

 

Mae 3 sedd wag i Lywodraethwyr ALl yn Ysgol Stanwell

 

Os ydych yn teimlo y gallwch fodloni’r meini prawf uchod a bod gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried fel llywodraethwr ALl yn Ysgol Stanwell, cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr drwy e-bost i governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ar 01446 709125 (llinell uniongyrchol) i gael pecyn ymgeisio.

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pecynnau cais wedi'u cwblhau yw dydd Gwener 28 Mehefin 2024 am hanner dydd