Y categorïau gwahanol o ysgolion yw:
Ysgol Gymunedol: Mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn berchen, rheoli, cynnal a staffio’r ysgol gan gynnwys y tir (yn amodol ar gyfrifoldebau wedi’u dirprwyo i gyrff llywodraethu)
Ysgol Arbennig Gymunedol: Ysgol ar gyfer plant gydag Anghenion Addysgol Ychwanegol. Mae’r ALl yn berchen, rheoli a staffio’r ysgol gan gynnwys y tir.
Ysgol Sefydledig: Mae’r corff llywodraethu yn berchen y safle, yn cyflogi’r staff ac yn bennaf gyfrifol am drefniadau derbyn. Bydd yn derbyn refeniw a chyfalaf gan yr ALl
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir: Mae gan yr ysgol ei safle ei hun, yn cyflogi'r staff ac yn delio â threfniadau derbyn. Mae’r ALl trwy raniad cyllideb yr ysgol yn darparu cyllid refeniw. Bydd y corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sefydledig. Bydd y rhain yn llenwi’r rhan fwyaf o leoedd ar y corff llywodraethu.
Ysgol Wirfoddol a Reolir: Mae sefydliad gwirfoddol yn aml yn berchen ar dir ac adeiladau’r ysgol. Fodd bynnag, bydd yr ALl yn cyflogi'r staff a bod yn bennaf gyfrifol am drefniadau derbyn. Mae gan ysgolion a reolir yn wirfoddol y Fro gysylltiad â’r Eglwys yng Nghymru at ddibenion rhoi addysg ffydd. Mae’r corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sefydledig ond ni fyddan nhw'n llenwi mwyafrif y lleoedd.