Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ad-drefnu Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y Fro

Ymgynghoriad ar y cynnig i ad-drefnu'r darpariaeth gynradd yng Ngorllewin y Fro 

 

Cyflwyniad

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau bod pob disgybl yn y Fro yn cael pob cyfle i sicrhau'r deilliannau gorau ag y bo modd.  Er mwyn gwireddu'r uchelgais hon, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn gynaliadwy, eu bod yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau lleol a'u bod yn manteisio ar yr amgylcheddau dysgu gorau ag y bo modd.


Ym mis Mawrth 2018, lansiodd y Cyngor ymgynghoriad newydd a oedd yn ceisio ystyried y ddarpariaeth o ran ysgolion cynradd yn ardal Gorllewin y Fro mewn ffordd holistig.  Nod yr ymgynghoriad oedd hysbysu'r gymuned o'r cynnig ad-drefnu ysgolion a oedd yn cael ei wneud, er mwyn adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llancarfan, a fyddai'n cynnig lle i 210 o blant, yn ogystal â darpariaeth 48 lle meithrin rhan-amser, a fyddai'n cael ei leoli yn y Rhws, a cheisio adborth am y cynnig hwn.


Mynegwyd nifer o bryderon pwysig gan aelodau'r gymuned ynghylch yr effaith ar eu hardaloedd lleol, a gofynnwyd nifer o gwestiynau ychwanegol am y cynnig, gan geisio sicrhau ein bod yn deall eu safbwyntiau.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgynghoriadau yn ystyrlon, yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer y cymunedau y byddant yn cael eu heffeithio, ac mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau bod cynigion yn glir, yn dryloyw ac yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu heffeithio.  Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni, a'r cymunedau ehangach yr ydym oll yn eu gwasanaethu y gellir gwireddu'r weledigaeth hon.

 

Mae'r ymarfer ymgynghori wedi bod yn werthfawr ac yn bwysig wrth gyfrannu at y camau nesaf. O ganlyniad i adborth, mae'r Cyngor wedi teimlo ei bod yn bwysig cynnwys mwy o fanylder yn y ddogfen ymgynghori, gan gynnig y cyfle i randdeiliaid ystyried hon o fewn amserlen ymgynghori newydd.

 

Y cynnig

I ad-drefnu darpariaeth gynradd yng Ngorllewin y Fro drwy: 

  • greu adeilad ysgol gynradd 210 lle newydd â dosbarth meithrin 48 lle rhan-amser ar gyfer Ysgol Gynradd Llancarfan yn y Rhws;
  • trosglwyddo staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Llancarfan i’r adeilad ysgol newydd; a
  • newid ystod oedran Ysgol Gynradd Llancarfan o 4-11 oed i 3-11 oed.

Y Rhesymau dros y cynnig

Fel y nodwyd uchod, mae'r adborth a ddarparwyd hyd yn hyn wedi bod yn hynod o werthfawr.  Cwblhawyd adolygiad thematig o'r pryderon a fynegwyd ac mae'r themâu hynny yn cynnig sylfaen i'r manylion ychwanegol sy'n cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Byddai trosglwyddo'r ysgol i adeilad newydd a mwy o faint yn rhoi sylw i nifer o sialensiau:

 

  • Byddai'r staff a'r disgyblion ar safle presennol Ysgol Gynradd Llancarfan yn cael budd gan adeilad ysgol newydd sy'n bodloni safonau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
  • Byddai sylw'n cael ei roi i'r capasiti gwag uwch yn Ysgol Gynradd Llancarfan.
  • Byddai'r galw cynyddol am leoedd i ddisgyblion yn ardal y Rhws yn cael ei fodloni.
  • Disgwylir i'r diwygiadau a gynigir i ddalgylchoedd yn ardal Gorllewin y Fro gynyddu niferoedd disgyblion mewn ysgolion eraill, gan wella cynaladwyedd yn y dyfodol a chyfrannu at ymrwymiad y Cyngor i leihau capasiti gwag yn ei ysgolion.
  • Byddai sylw'n cael ei roi i faterion safle bach sy'n ymwneud â chael ysgol ar safle cyfyngedig, megis diffyg cyfleusterau chwaraeon yn yr awyr agored.
  • Byddai sylw'n cael ei roi i'r mynediad gwael i'r ysgol trwy'r pentref a'r lonydd.
  • Byddai dosbarth meithrin yn cael ei sefydlu, gan gynorthwyo parhad a dilyniant yn nysgu plant o'r adeg pan fyddant yn 3 oed.  Byddai hyn yn cynorthwyo sefydlogrwydd o ran y niferoedd ar gyfer yr ysgol.  Mae gofyn cael lleoedd meithrin ychwanegol yn yr ardal er mwyn bodloni'r galw uwch gan blant oedran meithrin sy'n dod o'r datblygiad tai newydd yn y Rhws a hefyd, er mwyn darparu addysg feithrin i rieni presennol yr ysgol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y cynnig trwy ddarllen y dogfennau canlynol:

 

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 21 Mai 2018 i 9 Gorffennaf 2018. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:

 

  • Llenwch y ffurflen ymateb ar-lein

  • Dewch i’r sesiwn galw heibio a siarad â ni yn bersonol. Dyma ffordd dda o allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych o bosibl ynglŷn â’r cynigion. Byddwn yn gofyn o hyd eich bod yn llenwi ffurflen ymateb ar yr ymgynghoriad, oherwydd gallwn ond dderbyn safbwyntiau yn ysgrifenedig.

  • Llenwch y ffurflen ymateb ar yr ymgynghoriad, y gellir dod o hyd iddi ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori, a’i dychwelyd i’r cyfeiriad a roddir.

 

Sesiynau galw i mewn 

Sesiynau galw i mewn
 Cynulleidfa Dyddiad/ Amser Lleoliad
Sesiwn galw i mewn i rieni Dydd Mercher 27 Mehefin, 4:30 - 5:30pm  Ysgol Gynradd LLancarfan
Cyfarfod staff Dydd Mercher 27 Mehefin, 5:30 - 6:30pm   Ysgol Gynradd LLancarfan
Cyfarfod Llywodraethwyr

Dydd Mercher 20 Mehefin

2018 9.00am – 11.00am3.00pm – 7.00pm

Ysgol Gynradd LLancarfan 
Sesiwn galwi i mewn i gymuned y Rhws

 Dydd Gwener 22 Mehefin

2018 3.00 – 6.00pm

Canolfan Gymunedol Celtic Way, Celtic Way, Y Rhws


Os oes gennych ymholiad nad ydyw wedi’i ateb gan y wybodaeth a roddir, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost. 

 

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

 

Mae’r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a roddodd o’u hamser i ystyried ein cynnig ac i’r rheiny a fynegodd eu barn i ni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 17 Medi 2018. 

 

Mae’r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad a llythyr ar gael i’w lawrlwytho. Mae copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau drwy ddefnyddio’r Manylion Cyswllt isod.

 

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

 

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

 

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i adlunio darpariaeth gynradd yng ngorllewin y Fro 

Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i adlunio darpariaeth gynradd yng ngorllewin y Fro. Bydd yr hysbysiad ar waith o 5 Tachwedd 2018 tan 3 Rhagfyr 2018. 

 

Mae’r hysbysiad a’r llythyr statudol ar gael i’w lawrlwytho.  Mae copïau caled o’r hysbysiad ar gael ar gais trwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar y Manylion Cyswllt isod. 

 

Dylid anfon gwrthwynebiadau i’r hysbysiad at:

 

 

Neu:

 

Paula Ham, Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig,

Heol Holton,

Y Barri

CF63 4RU

 

Penderfyniad

Ar 18 Mawrth 2019, penderfynodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg gynradd yng ngorllewin y Fro trwy drosglwyddo Ysgol Gynradd Llancarfan i safle ysgol newydd yn y Rhws ar dir sydd tua’r gogledd-orllewin o'r rheilffordd, ac estyn yr ystod oedran a chynyddu capasiti’r ysgol. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 1 Medi 2021.

 

Mae'r llythyr penderfyniad, yr adroddiad Gwrthwynebiad, Atodiad B ac Atodiad C o’r adroddiad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gweler y manylion cyswllt isod.

 

Manylion Cyswllt