Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

School children in corridorLleoedd Uwchradd Cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg

Ymgyngori ar y cynnig i gynyddu lleoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg

 

Cefndir

Ym mis Mawrth 2014, rhoddodd Cabinet y Cyngor ystyriaeth i adroddiad am y diffyg rhagamcanol yn nifer y lleoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg erbyn mis Medi 2020. Fe ofynnon nhw inni wneud gwaith i sicrhau y byddai disgyblion o’r ysgolion cynradd Cymraeg yn gallu cael lle mewn addysg uwchradd yn y dyfodol.

 

Ar ôl i ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor i adleoli Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg i gwrdd â'r galw cynyddol am leoedd ym mis Mai 2015 cael ei gwrthwynebu, penderfynodd Cabinet y Cyngor i sefydlu'r Bwrdd Ymgynghorol Ysgolion Uwchradd Gorllewin Barri. Mae'r Bwrdd Ymgynghorol, drwy ymgysylltu â disgyblion, rhieni a staff, wedi paratoi chynnig newydd i ehangu Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg.

 

Bydd ymgynghoriad i gadarnhau cynlluniau ar gyfer y ddwy ysgol uwchradd un rhyw yn y Fro yn cael ei gynnal ym mis Medi.

 

Y Cynnig

Mae’r Cyngor yn cynnig cynyddu nifer y lleoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg trwy ehangu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar ei safle presennol i wneud lle ar gyfer y galw yn y dyfodol.

 

Bydd y cynnig hwn:

  • yn ehangu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg o 1361 o leoedd i 1660 o leoedd o fis Medi 2020 i ateb y galw cynyddol am leoedd.
  • yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn arwaith at gychwyn rhaglen o waith adnewyddu a gwaith i godi adeiladau newydd yn 2019 er mwyn sicrhau bod y campws newydd yn gallu ateb y galw ychwanegol a ragwelir.

 

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad yn y dogfennau isod:

 

Adroddiad Ymgynghorol

Mae’r awdurdod yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd yr amser i ystyried ein cynnig ac i’r sawl a roddodd eu barn inni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 26 Medi 2016.

 
Mae’r Adroddiad Ymgynghorol ar gael i’w llawrlwytho neu mae copïau called ar gael ar gais trwy gysylltu â Chyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar:

 

 

Cyhoeddiad Hysbysiad Statudol i ehangu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg o 1361 o leoedd i 1660 o leoedd.


Cytunodd Cabinet y Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad statudol o gynyddu lleoedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg drwy ehangu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg o 1361 o leoedd i 1660 o leoedd o fis Medi 2020. Bydd yr hysbysiad yn rhedeg o 17 Hydref 2016 i 14 Tachwedd, 2016.  

 

Mae'r hysbysiad statudol ar gael i’w llawrlwytho neu mae copïau called ar gael ar gais trwy gysylltu â Chyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar y manylion cyswllt uchod. 


Penderfyniad

Ar 12 Rhagfyr 2016, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg y cynnig i ymestyn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ar ei safle cyfredol o 1361 o leoedd i 1660 o leoedd er mwyn ateb galw yn y dyfodol am addysg uwchradd Gymraeg ym Mro Morgannwg. Bydd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn cael ei hymestyn ar ei safle cyfredol o fis Medi 2020 gan gymryd bod yr arian y mae ei angen yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r llythyr penderfyniad ar gael i’w lawrlwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais trwy naill ai ffonio’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu e-bostio eich cais i: MMatthews@valeofglamorgan.gov.uk