Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ymgynghoriad Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr

Ymgynghoriad ar y cynnig i greu Ysgol Gynradd newydd â 420 o leoedd fel rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr drwy gyfuno Ysgolion Cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr

 

Mae'r Cyngor yn cynnig sefydlu Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr er mwyn gweddnewid cyfleoedd addysgol yn Llanilltud Fawr. Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cael ei lleoli ar safleoedd presennol Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant.

 

Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cynnwys Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr a fydd wedi’i hailfodelu, ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd a ffurfiwyd drwy gyfuno ysgolion cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr ac ehangu Ysgol Dewi Sant i ysgol â 210 o leoedd. Byddai’r tair ysgol ar yr un safle on byddant yn cadw’u hunaniaeth ar wahân ac yn elwa ar gyfleusterau a rennir.

 

Bydd y cynnig yn cwrdd â nodau rhaglen ysgolion yr 21ain Llywodraeth Cymru i greu:

  • Amgylcheddau dysgu i blant a phobl ifainc rhwng 3-10 oed a fydd yn galluogi gweithredu strategaethau llwyddiannus ar gyfer gwella ysgolion a gwell canlyniadau addysgol;
  • System addysg gynaliadwy drwy ddefnydd gwell o adnoddau er mwyn gwella effeithlonrwydd a chost effeithiolrwydd;
  • Safon ysgolion yr 21ain ar gyfer pob ysgol sydd hefyd yn lleihau costau ailadroddus, defnyddio ynni a gollwng carbon.

Mae'r ymgynghoriad yn esbonio cynnig y Cyngor i greu ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd fel rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr drwy gyfuno ysgolion cynradd Easgleswell a Llanilltud Fawr. Bydd Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr yn cwrdd â nodau Rhaglen Ysgolion yr 21ain Llywodraeth Cymru i alluogi'r ysgolion a'r gymuned i ddefnyddio ystod eang o gyfleusterau newydd.

 

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 16 Rhagfyr 2013 i 10 Chwefror 2014.

 

Sut gallaf i gaell rhagor o wybodaeth?

Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol yn manylu ar y cynnig ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:  

 

Sylwer oherwydd yr Arolygiad gan Estyn sydd ar ddod Yn Ysgol Gynradd Easgleswell mae’r dyddiad ar gyfer y sesiwn galw i mewn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn wedi newid o ddydd Llun 3 Chwefror i ddydd Gwener 7 Chwefror rhwng 3.15 a 6.00pm.

  • Llenwi’r profforma a geir o fewn y ddogfen ymgynghorol a’i dychwelyd i:

    Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr

    Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol

    Cyngor Bro Morgannwg
    RHADBOST SWC2936
    Y Barri
    CF63 4GZ

 

Os oes gennych ymholiad nad yw'r wybodaeth a ddarperir yn ei ateb cysylltwch â ni:

neu ysgrifennwch at Gymuned Ddysgu Llanilltud Fawr, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, Cyngor Bro Morgannwg, RHADBOST SWC2936, Y Barri, CF63 4GZ.