Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Ffederasiwn Cyrff Llywodraethol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a WhitmoreWelsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ffederasiwn Cyrff Llywodraethol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore

Ymgynghoriad ar Ffederasiwn Cyrff Llywodraethol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore

Sust Learning logo_colour

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Mae cyrff llywodraethu Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore yn dymuno ymgynghori ar ffedereiddio arfaethedig eu cyrff llywodraethu. Pe cytunir arno, byddai'r ddwy ysgol yn parhau i gael eu hunaniaeth unigol eu hunain o ran enw, diwylliant ac ethos, a byddent yn parhau i reoli eu cyllidebau unigol eu hunain.

 

Mae’r cyrff llywodraethu presennol a Chyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am hyrwyddo safonau addysgol uchel ac am ddarparu addysg uwchradd effeithlon. Mae gan y ddwy ysgol hanes cryf o gydweithio ac mae hyn eisoes wedi cael effaith gadarnhaol. Ystyrir bod cael arweinwyr effeithiol yn ein hysgolion yn ganolog i'r cyfrifoldeb hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn cyflwyno’r achos dros newid y trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu yn y ddwy ysgol. Paratowyd y ddogfen ymgynghori ar y cyd gan y cyrff llywodraethu gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol.  Os cytunir arno, byddai’r ffederasiwn hwn yn dechrau o 1 Medi 2025.

 

Prif ddiben yr ymgynghoriad hwn yw darparu gwybodaeth am y ffederasiwn arfaethedig a gyflwynir gan y ddau gorff llywodraethu a chasglu barn rhanddeiliaid a nodwyd.

 

Ymateb i'r cynnig

Bydd corff llywodraethu’r ddwy ysgol yn sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon, yn berthnasol ac yn briodol i’r holl randdeiliaid dan sylw. Gan y teimlir bod y cynnig er budd gorau’r ysgolion, mae gan y corff llywodraethu ddyletswydd gofal i sicrhau bod y cynnig yn glir, yn dryloyw, ac yn adlewyrchu’r rhai yr effeithir arnynt. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, rhieni, staff a disgyblion yn ogystal â’r gymuned ehangach a wasanaethir y mae hon yn weledigaeth y gellir ei gwireddu.

 

Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 3 Mawrth – 14 Ebrill 2025. Gallwch ymateb i'n cynigion unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Mae eich barn yn bwysig i ni, mae hwn yn gyfle i ofyn cwestiynau a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Mae yna nifer o ffyrdd i ymateb.

  • Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein isod:

  • Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a'i hanfon i 

Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

3ydd Llawr

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Barri

CF63 4RU

 

Sylwch y dylai pob sylw a gyflwynir yn ysgrifenedig gynnwys enw llawn a chod post y sawl sy'n gwneud y sylwadau.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yw 14 Ebrill 2025. Yn anffodus, ni fydd ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.

 

Dogfennau Ymgynghori

Dogfen Ymgynghori