Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

Ymgynghoriad ar gynnig i greu Ysgol Gynradd Newydd â 420 o leoedd drwy gyfuno Ysgol Fabanod Dinas Powys ac Ysgol Iau Murch.

 

Bwriad y Cyngor yw creu ysgol gynradd newydd ar gyfer babanod ac adran iau drwy gyfuno Ysgol Fabanod Dinas Powys ac Ysgol Iau Murch. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Iau Murch, a sefydlu ysgol un cyfnod yn ei lle ar draws dau safle o dan un Corff Llywodraethol a Phennaeth.

 

Mae penderfyniad Pennaeth Ysgol Iau Murch i ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd wedi arwain at y penderfyniad hwn. Mae’r ymddeoliad wedi creu cyfle i'r Cyngor adolygu ei strwythur un cyfnod presennol gyda'r nod o gyfuno'r ysgolion ar eu safle presennol o dan un pennaeth a chorff llywodraethol er mwyn gwella cyfleoedd addysgol i bob disgybl.

 

Yr Ysgolion Babanod ac Iau yn Ninas Powys yw’r unig ysgolion cymunedol un cyfod ar ôl yn y Fro.  Mae symud o ysgolion babanod ac iau ar wahân i un ysgol gynradd un cyfnod yn dod â nifer o fuddion i ddisgyblion ysgol.  Un o’r prif resymau dros y symud i ysgolion cynradd dros y 30 o flynyddoedd diwethaf oedd ei bod yn haws i blant symud o’r cyfnod babanod i’r cyfnod iau.

 

Byddai’r cynnig yn golygu y byddai'r ddau safle’n cael eu rhedeg fel un ysgol gynradd un cyfnod, gan ddysgu plant hyd at un ar ddeg oed pan fyddant yn gadael i fynd i’r ysgol uwchradd.

 

Mae’r ymgynghoriad yn esbonio cynnig y Cyngor i greu ysgol gynradd newydd â 420 o leoedd drwy gyfuno Ysgol Fabanod Dinas Powys ac Ysgol Iau Murch.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 2 Mehefin 2014 i 28 Gorffennaf 2014.

 

Sut rwy’n cael rhagor o wybodaeth?

 

Gallwch lwytho copi o’r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol i lawr. Mae'r rhain yn esbonio'r cynnig a gallwch anfon eich barn atom yn y ffyrdd canlynol:

  •  llenwi’r ffurflen profforma a geir yn y ddogfen ymgynghorol a’i dychwelyd i:

         Cyfuno Ysgolion Dinas Powys a Murch

         Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid

         Cyngor Bro Morgannwg

         RHADBOST SWC2936

         Y Barri CF63 4GZ

Os oes gennych ymholiad sy ddim yn cael ei ateb gan y wybodaeth a ddarperir gallwch anfon e-bost at dinasmurchamalg@valeofglamorgan.gov.uk, ffoniwch y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu ysgrifennu at Cyfuno Ysgolion Dinas Powys a Murch, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, Cyngor Bro