Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

21st Century Schools Logo

Ehangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)

Ymgynghoriad ar y cynnig i ateb y galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o fis Medi 2022.

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 4 Tachwedd 2019, fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu fel rhan o gam un a darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu fel rhan o gam dau. Mae hyn yn unol â’r amcanestyniadau disgyblion, sy’n dynodi na fyddai darpariaeth cyfrwng Saesneg yn gallu ateb y galw o fis Medi 2020. Mae’r amcanestyniadau’n dynodi y byddai’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel y mae ar hyn o bryd yn cyrraedd ei chapasiti o fewn y pum mlynedd nesaf.

Fe roddodd y Cyngor ystyriaeth i ystod o safleoedd i gyflawni’r ddau gam; gyda Safle Ysgol Gyfun y Bont-faen yn cael ei adnabod fel y safle a ffefrir ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a safle Fferm y Darren ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Fe ymgynghorodd y Cyngor yn flaenorol ar gynnig i gynyddu capasiti cyfrwng Saesneg trwy sefydlu ysgol pob oed 3-19 ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i 420 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg gyda 96 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol. Byddai hyn wedi arwain at ddirwyn Ysgol Gynradd y Bont-faen ar ei ffurf bresennol i ben, gyda’r holl staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgol pob oed.

Mae’r Cyngor yn nodi’r pryderon a godwyd gan staff, llywodraethwyr, rhieni ac aelodau’r gymuned ynghylch y cynnig blaenorol a chan hynny mae wedi mynd ati’n llawn i archwilio’r dulliau eraill sydd ar gael i gyflawni’r capasiti gofynnol.

Mae’r Cyngor wedi adnabod dull arall a fyddai’n ateb y galw am addysg gynradd cyfrwng Saesneg, gan hefyd fynd i’r afael â nifer o bryderon a gyflwynwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori.

Ar 9 Mawrth 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad rhwng 16 Mawrth 2020 ac 1 Mai 2020ar gynnig diwygiedig i gynyddu nifer y lleoedd ysgol cynradd yn y Bont-faen.

Dwedodd Ysgol Gyfun y Bont-faen wrth y Cyngor y byddai’n gohirio'r holl addysg ffurfiol o 23 Mawrth 2020 oherwydd y goblygiadau a oedd yn gysylltiedig â’r feirws COVID-19 parhaus. Arhosodd yr ymgynghoriad ar agor yn ystod y cyfnod hwn ac roedd ymgyngoreion yn gallu cyflwyno adborth gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu'r ffurflen ymateb a gynhwysir ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori. Ataliwyd sesiynau galw heibio yn y cnawd a chyfarfodydd gyda chyngor a chorff llywodraethu'r ysgol, roedd ymgyngoreion yn gallu cyflwyno unrhyw ymholiadau i'r tîm Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif drwy e-bost neu dros y ffôn. Cafodd yr adran cwestiynau cyffredin ar y wefan ei diweddaru drwy gydol yr ymgynghoriad i adlewyrchu'r ymholiadau a godwyd.


Felly, mae'r Cyngor yn ail-lansio'r cyfnod ymgynghori er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid ysgolion a'r gymuned leol yn gallu mynegi eu barn.  Bydd unrhyw ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod pan arhosodd yr ymgynghoriad ar agor (o 16 Mawrth 2020) yn cael eu cadw a'u hintegreiddio i adroddiad yr ymgynghoriad ynghyd ag unrhyw ymatebion a gafwyd o fewn y cyfnod ymgynghori newydd.

Mae wedi dod at ein sylw na dderbyniodd rhai rhieni / gofalwyr disgyblion sy'n mynychu Ysgol Gyfun Y Bont-faen yr e-bost a gyhoeddwyd ar 9 Medi i roi gwybod am ddyddiad gorffen yr ymgynghoriad newydd, sef 18 Hydref 2020. Er mwyn sicrhau bod pob rhiant / gofalwr yn cael cyfle i ystyried y cynnig yn llawn, rydym wedi ymestyn dyddiad gorffen yr ymgynghoriad a fydd nawr yn 23 Tachwedd 2020.

 

Mae'r cyfnod ymgynghori ar agor tan 23 Tachwedd 2020 i ateb y galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o fis Medi 2022 trwy:

  • Newid ystod oedran Ysgol Gyfun y Bont-faen o 11 - 19 i 3 - 19;
  • Cynyddu capasiti Ysgol Gyfun y Bont-faen o 1,586 o leoedd i 1,796 o leoedd i wneud lle i 210 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg gyda 48 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol; a
  • Chodi adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i’r cyfnodau cynradd a meithrin. 

(Na fyddai Ysgol Gynradd y Bont-faen wedi’i chynnwys yn y cynnig hwn ac y byddai’n aros ar ei safle presennol gyda’i chapasiti presennol.)

 

Penderfyniad

Ar 22 Mawrth 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor yr adroddiad gwrthwynebiadau a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig. 

Bydd y cynnig yn arwain at 210 o leoedd cynradd a 48 o leoedd meithrin rhan-amser cyfrwng Saesneg ychwanegol yn y Bont-faen. Bydd adeilad hunangynhwysol newydd yn cael ei godi ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i’r cyfnodau cynradd a meithrin.
 

Dogfennau Ymgynghori

 

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Pam sefydlu ysgol pob oed? 
    Mae ysgol pob oed yn fodel addysg sy’n cyfuno mwy nag un cyfnod yn addysg plentyn mewn un sefydliad addysg. Yn y cyd-destun hwn, byddai’n golygu bod y cyfnodau addysg cynradd ac uwchradd yn cael eu rheoli fel un ysgol.

    Fel a nodir uchod, y prif sbardun ar gyfer y cynnig hwn yw ateb galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o ganlyniad i ddatblygiadau tai diweddar ac arfaethedig. Cafodd safle Ysgol Gyfun y Bont-faen ei adnabod fel y safle a ffefrir i gyflawni’r capasiti uwch. Fe wnaeth y Cyngor ystyried enghreifftiau eraill yn yr ardal lle mae mwy nag un cyfnod addysg yn rhannu un safle, megis Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr ac Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Mae’r model ysgol pob oed yn darparu cyfleoedd ychwanegol o ran mwy o gydweithio, gwell cyfleusterau, gwell trefniadau pontio a rheolaeth gyson ar y safle.   
  • A fyddai pennaeth newydd? 
    Byddai Pennaeth Ysgol Gyfun y Bont-faen yn dod yn bennaeth yr ysgol pob oed a byddai’n gyfrifol am yr holl gyfnodau addysg.

    Er bod yr holl gyfnodau addysg yn cael eu rheoli fel un sefydliad, byddai’r cyfnod cynradd yn dal i fod ag arweinydd (mewn modelau blaenorol pennaeth y cyfnod cynradd fu hwn) a byddai’n cael ei leoli mewn adeilad ar wahân wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer disgyblion cynradd.

    Corff llywodraethu Ysgol Gyfun y Bont-faen fyddai’n gyfrifol am ddatblygu strwythur staffio ar gyfer yr ysgol. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig i’r strwythur staffio’n amodol ar ymgynghori’n llawn â staff a’r undebau llafur perthnasol lle y bo angen.  
  • Beth fyddai’r trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol pob oed 3-19 oed? 

    Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. 30 o ddisgyblion fyddai’r nifer derbyn ar gyfer ffrwd dderbyn Medi 2022. Byddai’r ysgol hefyd yn cynnig 48 o leoedd meithrin rhan-amser o fis Medi 2022. Ni fyddai disgyblion yn cael eu derbyn i grwpiau Blwyddyn 1-6 ar adeg agor yr ysgol. Byddai’r cyfnod cynradd yn tyfu ac yn derbyn disgyblion i’r grwpiau blwyddyn hyn dros gyfnod o saith mlynedd. Mae hyn yn cyfyngu ar effaith darpariaeth ysgol newydd ar ysgolion cyfagos ac yn galluogi ysgol newydd i dyfu mewn modd sefydlog. Yn y cyfnod uwchradd byddai disgyblion yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le.

  • A fyddai’r cynnig hwn yn effeithio ar dderbyniadau uwchradd ar gyfer Ysgol Gyfun y Bont-faen?
    Fel a nodir uchod, byddai disgyblion o gyfnod cynradd yr ysgol pob oed yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le. Ystyrir bod capasiti presennol Ysgol Gyfun y Bont-faen yn addas i ateb y galw uwch am addysg uwchradd yn y dalgylch. Er bod goralw cyson am leoedd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, mae’r ysgol yn denu nifer fawr o geisiadau o’r tu allan i’r dalgylch. Ym mis Medi 2019, dim ond 151 (63%) o’r 240 o ddisgyblion y dyrannwyd lle iddynt oedd yn byw yn y dalgylch. O’r 1,539 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, dim ond 960 (62%) sy’n byw yn y dalgylch. Mae hyn yn golygu bod 579 (38%) o’r disgyblion sydd ar y gofrestr yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ar hyn o bryd. Felly, byddai’r cynnig hwn yn arwain at gyflenwad a galw mwy effeithlon lle mae lleoedd uwchradd yn nalgylch Ysgol Gyfun y Bont-faen yn y cwestiwn. 
  • Pa opsiynau sydd ar gael i rieni ac arnynt eisiau addysg Gymraeg? 

    Mae Ysgol Iolo Morganwg ac Ysgol Dewi Sant yn ysgolion cynradd Cymraeg sy’n gwasanaethu’r Fro Orllewinol. Mae’r ddarpariaeth gynradd Gymraeg bresennol yn ddigon i ateb y galw a ragwelir am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal hon dros y 5 mlynedd nesaf. Ar 4 Tachwedd 2019 fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda chapasiti cyfrwng Saesneg yn cael sylw fel rhan o gam un a chapasiti cyfrwng Cymraeg yn cael sylw fel rhan o gam dau. I sicrhau parhad ar draws cyfnodau allweddol, cynigir y byddai addysg cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen tra byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu gan ddefnyddio’r safle 2 hectar ar Fferm y Darren. 

     

     

  • Beth fyddai dyluniad yr adeilad ysgol newydd yn ei olygu? 
     Ysgol gynradd ddwy ffrwd hunangynhaliol fyddai’r adeilad ysgol newydd (h.y. yn ffisegol ar wahân i’r ysgol gyfun bresennol ar y safle arfaethedig). Byddai’r dyluniad yn ateb gofynion Bwletin Adeiladu: 99 sy’n cynnwys meini prawf ar gyfer maint dosbarthiadau a darpariaeth awyr agored. Mae ysgolion cynradd blaenorol a ddarparwyd gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg yn cynnwys Ysgol y Ddraig (sydd hefyd yn ysgol ddwy ffrwd), Ysgol Dewi Sant, Ysgol Nant Talwg (cyfnod cynradd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg bellach), ac Ysgol Gynradd Oak Field. Ceir manylion a ffotograffau pellach ar brif dudalen we Ysgolion yr 21ain Ganrif: 21st-Century-Schools
  • Sut fyddem ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio?  
     Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk
  • A yw'r ymgynghoriad wedi dod i ben o ganlyniad i COVID-19?  

    Mae'r ymgynghoriad wedi aros ar agor ers ei lansio ar 16 Mawrth 2020.  Oherwydd cau pob ysgol ym Mro Morgannwg, mae'r cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn.  Drwy gydol pandemig COVID-19, mae ymgyngoreion wedi gallu cyflwyno adborth gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu drwy ddychwelyd ffurflen ymateb wedi'i chwblhau. 

  • A fydd yr ymgynghoriad yn dal i ddod i ben ar 1 Mai 2020? 

    Ar 19 Mawrth 2020, ysgrifennodd y Cyngor at ymgyngoreion rhagnodedig i ddweud bod y cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn o ganlyniad i gau ysgolion.  Roedd yr ymgynghoriad yn benagored hyd nes y gellid penderfynu ar ddyddiad gorffen newydd. Bydd yr ymgynghoriad nawr yn dod i ben ar 23 Tachwedd 2020. 

  • A wnaiff y Cyngor drefnu sesiynau galw heibio cymunedol i gefnogi'r ymgynghoriad? 

    Fel arfer, byddai sesiynau galw heibio cymunedol a sesiynau  rhieni yn cael eu cynnal i gefnogi'r ymgynghoriad. Oherwydd sefyllfa barhaus Covid-19, nid yw'n ymarferol cynnal y sesiynau hyn. Fodd bynnag, gallwch gysylltu ag aelod o'r tîm ar unrhyw adeg yn ystod yr ymgynghoriad gydag unrhyw ymholiadau gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod.  Byddwn hefyd yn diweddaru Cwestiynau Cyffredin y dudalen we gydag ymholiadau ac ymatebion mynych.

     

 

 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

 

21stC Schools - Oakfield
(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor
(Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, 2014)

21stC Schools - Dewi Sant (hall2)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)
21stC Schools - Dewi Sant
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

 

Manylion cyswllt