Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd y newidiadau a gynigir yn sicrhau dosraniad mwy cytbwys o leoedd ysgol i ateb y galw yn y dyfodol gan ddisgyblion sydd angen lle ysgol o fewn dalgylchoedd diffiniedig. Bydd y diwygiad yn blaenoriaethu’r rhai sy’n byw agosaf at ysgol gynradd pan fo nifer y ceisiadau o’r tu fewn i ddalgylch yn fwy na’r nifer o leoedd sydd ar gael fydd yn cefnogi mynychu ysgol leol plentyn.
Mae mwy o wybodaeth ar y cynnig i'w gael yn y dogfennau canlynol:
Mapiau ardaloedd dalgylch ysgol uwchradd presennol ac arfaethedig:
Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer yn rhedeg o 11 Rhagfyr 2019 i 3 Chwefror 2020. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yn y ffyrdd canlynol:
Llenwi ein ymgynghoriad ar-lein
Llenwi'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, sydd i'w gweld ar ddiwedd y llythyr i rieni/ymgyngoreion rhagnodedig, a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a nodir
E-bostio’r ffurflen neu’ch sylwadau i admissions@valeofglamorgan.gov.uk
Penderfynodd Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar drefniadau derbyn y Cyngor ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 ar 23 Mawrth 2020 a chymeradwyodd newidiadau i gynnwys mân ddiwygiad i’r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion cynradd cymunedol i sicrhau bod y rheiny sy’n byw mewn dalgylch ysgol yn cael blaenoriaeth uwch ar gyfer eu derbyn i ysgol, a diwygiad i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd er mwyn alinio dalgylchoedd ysgolion uwchradd yn well â chapasiti’r ysgolion. Daw’r trefniadau yn rhan o’r polisi ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22.
Gellir lawrlwytho’r polisi derbyn a llythyr i ysgolion neu mae copi caled ohono ar gael ar gais drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau:
Y newidiadau a gytunwyd i ddalgylchoedd yr ysgolion uwchradd yw:
Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Ysgol Uwchradd Whitmore
Ysgol Gyfun y Bont-faen
Ysgol Llanilltud Fawr
Ysgol Gyfun Sant Cyres