Cost of Living Support Icon
HafanBywYsgolionTrefniadau Derbyn i'r Ysgol 2021/2022Ailgynllunio Ysgolion Cynradd yng Ngorllewin y FroCentre for Learning and WellbeingALN phase iii Ysgol Y Deri ExpansionArolwg Addysg Gyfrwng CymraegCanolfan Adnoddau Arbenigol Gymraeg yn Ysgol Gwaun y NantCanolfan Adnoddau Ysgol Uwchradd WhitmoreChanging Stanwell School from Foundation School to Community Maintained SchoolConsultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery SchoolsConsultation on Transforming English Medium Secondary Education in BarryCyfuno Ysgol Babanod Dinas Powys ac Ysgol Iau MurchEglwys y Wig a Marcroes Ysgol Gynradd CymruEhangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)Ehangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi SantEhangu Ysgol Sant BarucEhangu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sain NicolasExpanding St Richard Gwyn Catholic High SchoolExpanding Ysgol Iolo MorganwgNursery Provision PenarthAdmission Consultation 2021 2022School Admission Arrangements 2022-23School Admissions Arrangements 2023-24St Brides Church in Wales Primary SchoolSt Helen's Catholic Infant and Junior School AmalgamationTrefniadau Derbyn i Ysgolion 2024/2025Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2025/2026Trefniadau Derbyn i'r Ysgol 2020/21Welsh Medium Secondary School PlacesYmgynghori YsgolionYmgynghoarid ar Ehangiad Cyfrwng Cymraeg yn y BarriYmgynghoriad ar gynnig i sefydlu uned feithrin 60 lle yn Ysgol Gynradd FairfieldYmgynghoriad Dysgu Cymunedol Llanilltud FawrYmgynghoriad SRB ar adleoli i Ysgol Y DdraigYsgol Gymraeg Nant Talwg ac sgol Gyfun Bro Morgannwg Amalgamation

21st Century Schools LogoEhangu Ysgol Y Deri


Ymgynghoriad ar y cynnig i drawsnewid addysg arbenigol (cam iii). 

 

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 9 Gorffennaf 2020, fe gymeradwyodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor strategaeth i drawsnewid addysg arbennig ym Mro Morgannwg i ateb y galw a ragwelir yn y dyfodol ac i ddiwallu anghenion ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau bosibl. Roedd y strategaeth yn nodi tri maes allweddol:

  1. Sefydlu Canolfan Dysgu a Lles (CDaLl) newydd, a fydd yn disodli Y Daith, uned cyfeirio disgyblion (UCD) y Cyngor;
  2. Sefydlu canolfannau adnoddau arbenigol (CAA) mewn ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at addysg brif ffrwd; a hefyd
  3. Cynyddu capasiti Ysgol Y Deri (YYD), ysgol arbennig y Cyngor, i ateb y galw a ragwelir am addysg arbennig.

Ar 2 Tachwedd 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad rhwng dydd Gwener 6 Tachwedd 2020 a dydd Sul 20 Rhagfyr 2020 ar gynnig i ehangu Ysgol Y Deri (YYD) trwy;

  • Gynyddu capasiti YYD i wneud lle i 150 o ddisgyblion ychwanegol; a
  • Chodi adeilad ysgol newydd ar y safle a ffefrir yn Cosmeston, Penarth ar gyfer mis Medi 2023, a fyddai’n gweithredu fel safle ychwanegol dan reolaeth YYD.

Penderfyniad

 

Ar 26 Ebrill 2021, ystyriodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yr adroddiad gwrthwynebiadau a'r holl ddogfennau perthnasol eraill a phenderfynodd gymeradwyo'r cynnig. 

Bydd y cynnig yn golygu y bydd darpariaeth addysgol arbenigol yn Ysgol y Deri yn cael ei chynyddu i ddarparu ar gyfer 150 o ddisgyblion ychwanegol. Er mwyn darparu ar gyfer y capasiti cynyddol hwn, bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu ar safle newydd, a fydd yn gweithredu o dan reolaeth Ysgol y Deri. 

 

Dogfennau Ymgynghori

 

Os oes dogfennau ymholiadau, cysylltwch ag aelod o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk.


Cwestiynau Cyffredin

  • Beth yw graddfa amser fwriadedig y datblygiad?

    Y bwriad yw y byddai’r cynnig hwn yn cael ei roi ar waith erbyn mis Medi 2023. Byddai gwaith i adeiladu’r ysgol newydd yn dechrau erbyn mis Ionawr 2022 ac yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2023.

  • Sut fyddai goblygiadau posibl ar gyfer cludiant yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynnig hwn?

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am y broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi a byddai asesiad trafnidiaeth llawn yn cael ei gynnal fel rhan o’r broses ddylunio. Byddai unrhyw oblygiadau a gâi eu hadnabod yn cael eu hystyried yn nyluniad yr adeilad newydd. Byddai’r contractwr yn cyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer yr adeilad newydd.

  • Pwy fyddai’n rheoli’r broses o adeiladu’r adeilad ysgol newydd?

    Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor fyddai’n gyfrifol am reoli’r broses adeiladu. Byddai contractwr yn cael ei benodi gan ddefnyddio fframwaith SEWSCAP. Fframwaith adeiladu yw SEWSCAP a ddefnyddir gan 16 o awdurdodau lleol ac sy’n darparu Contractwyr sydd wedi cyn-gymhwyso ac sydd â phrofiad addas i gyflawni Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac adeiladau cyhoeddus eraill, sy’n gysylltiedig â phrosiectau i godi adeiladau newydd ac adnewyddu adeiladau presennol y mae eu gwerth yn fwy nag £1.5 miliwn. Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch y cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol.

     

  • Sut fyddem ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio?

    Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk 


 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

Ysgol Y Deri - Outside Teaching Space
(Iard Ysgol Y Deri)

Ysgol Dewi Sant - Hall 3
(Ardal hyblyg “Calon yr Ysgol” yn Ysgol Dewi Sant)

Ysgol Y Deri - Reception
(Derbynfa ddiogel Ysgol Y Deri)
Oak Field - Outside
(Golwg o’r tu allan i Ysgol Oak Field)

 

 

Manylion cyswllt